Treuliau a Lwfansau Cynghorwyr
Mae’r dudalen hon yn dangos y treuliau a lwfansau a hawliwyd gan Gynghorwyr Bwrdeistref Sirol Torfaen. Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn rheoleiddio'r symiau y mae'r Cynghorwyr yn eu hawlio.
Mae gan bob Cynghorydd hawl i’r lwfans sylfaenol (sy’n £17,600 ar hyn o bryd) i adlewyrchu eu gwaith fel cynrychiolwyr.
Mae’r Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth wedi penderfynu bod gan rhai swyddi, er enghraifft, yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, Aelodau’r Cabinet, Cadeiryddion Craffu a Phwyllgorau eraill fel Cynllunio a Thrwyddedu, gyfrifoldebau arbennig dros Gynghorwyr eraill. Mae’r swyddi yma’n caniatáu i Gynghorwyr hawlio Lwfansau Cyfrifoldeb Arbennig. Mae lwfans gofal ar gael hefyd i’r rheiny sydd â dibynyddion.
Mae treuliau teithio’n cael eu hawlio gan Gynghorwyr i dalu eu costau pan fyddan nhw’n teithio i ffwrdd o gartref neu o eiddo Torfaen ar fusnes y Cyngor (er enghraifft, os ydyn nhw’n mynychu seminarau Cymru gyfan neu gyfarfodydd Pwyllgor). Gellir hawlio treuliau eraill i dalu costau ar gyfer (er enghraifft) bwyd a diod sy’n angenrheidiol o ganlyniad i’w busnes ar ran y Cyngor.
Mae Torfaen yn cyhoeddi’r taliadau i gyd sy’n cael eu hawlio gan Gynghorwyr. Mae Cynllun y Cyngor ar Gydnabyddiaeth Ariannol Cynghorwyr yn cyflwyno’r lwfansau a threuliau y gellir eu hawlio. Mae’r Cynllun yn cydymffurfio â’r holl ddeddfwriaeth berthnasol a’r penderfyniadau ar lwfansau mewn adroddiadau a gyhoeddir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Barn y Panel oedd eu bod yn ‘teimlo'n gryf y dylai rôl cynghorwyr ledled Cymru gael ei barchu fel rôl broffesiynol’. Mae copi o'r Hysbysiad Ynghylch Lwfansau Cynghorwyr i'w gael yma.
Gallwch lawr lwytho copi o dreuliau a lwfansau a hawliwyd isod:
Lawrlwythwch gopi o'r Aelodau tâl atodlen Aelodau Tâl Atodlen sy'n rhoi manylion yr hyn y gall aelodau hawlio yn y flwyddyn gyfredol. which details what members can claim in the current year.
Mae nifer o Gynghorwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen hefyd yn derbyn tâl am y gwaith y maen nhw'n ymgymryd ag ef wrth gynrychioli'r Cyngor ar gyrff cyhoeddus eraill. Mae’r cyrff fel a ganlyn:
Gellir gweld adran treuliau'r cyrff dan sylw trwy ddilyn y dolenni cyswllt uchod.
Diwygiwyd Diwethaf: 07/08/2024
Nôl i’r Brig