Pwy yw fy Nghynghorydd?
Mae Cynghorwyr Lleol yn cael eu hethol gan y gymuned i benderfynu sut y dylai'r cyngor gyflawni ei weithgareddau amrywiol. Maent yn cynrychioli budd y cyhoedd yn ogystal ag unigolion sy'n byw yn y ward y mae ef neu hi wedi'i hethol i wasanaethu am dymor yn y swydd.
Maent yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd yn rheolaidd trwy gyfarfodydd y cyngor, galwadau ffôn neu gymorthfeydd. Mae cymorthfeydd yn rhoi cyfle i unrhyw un sy'n byw yn y ward fynd i siarad â'u cynghorydd wyneb yn wyneb ac mae'r rhain yn digwydd yn rheolaidd.
Ni thelir cyflog i gynghorwyr am eu gwaith, ond maent yn derbyn lwfansau. Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i bob aelod o'r Cyngor lenwi ffurflen datgan buddiant, a chyhoeddir ei manylion yn flynyddol.
Dewch o hyd i’ch cynghorydd lleol yma.
Diwygiwyd Diwethaf: 28/03/2023
Nôl i’r Brig