Beth mae Cynghorwyr yn ei wneud?
Eich cynghorydd yw'r unigolyn a etholir bob 4 blynedd i gynrychioli eich ardal leol.
Gallant helpu os ydych yn anfodlon ar un o wasanaethau'r cyngor drwy eich cynghori neu eich cyfeirio at rywun a all helpu i ddatrys eich problem, ac weithiau gallant fynd i'r afael â'r achos ar eich rhan.
Fel arweinwyr cymunedol, maent yn cyflwyno cynigion i wella eu ward, a allai gynnwys dod â gwahanol grwpiau cymunedol ynghyd i ddatblygu achos dros newid.
Mae gan bob cynghorydd ddisgrifiad rôl a manyleb person sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau a'u swyddogaethau a'r nodweddion a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Gellir lawrlwytho copi o'r Fframwaith Disgrifiadau Rôl a Manylebau Person Aelodau yma.
Mae'r gyfres o ddisgrifiadau rôl a manylebau person yn ymdrin â'r rolau canlynol:
- Aelod Etholedig
- Arweinydd
- Aelod y Cabinet
- Cadeirydd y Cyngor
- Cadeirydd pwyllgor rheoleiddiol
- Aelod o bwyllgor rheoleiddiol
- Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu
- Aelod o Bwyllgor Trosolwg a Chraffu
- Arweinydd yr Wrthblaid
- Hyrwyddwr Aelodau
Mae rhai cynghorwyr yn cyflawni mwy nag un rôl (e.e. gallwch fod yn aelod etholedig ac yn aelod o bwyllgor craffu a'r Maer).
I weld pa rolau y mae eich cynghorydd lleol yn eu cyflawni, edrychwch ar y Cyfeiriadur Cynghorwyr.
Diwygiwyd Diwethaf: 11/02/2022
Nôl i’r Brig