Arweinydd Torfaen
Etholwyd Anthony Hunt yn gynghorydd am y tro cyntaf yn 2012, i wasanaethu ward Panteg.
Graddiodd Anthony o Brifysgol Caerdydd gyda gradd yn y gyfraith a threuliodd amser yn gweithio yn America cyn dychwelyd i Gymru. Yn fab i nyrs a swyddog yr heddlu, mae Anthony yn cyfeirio at ei angerdd dros wasanaethau cyhoeddus, a’i ddymuniad i ddiogelu’r gwasanaethau hynny, fel y rhesymau am iddo fynd i wleidyddiaeth.
Cyn cael ei ethol i’r Cyngor, cafodd Anthony brofiad helaeth ym mhob lefel o lywodraeth, gan dreulio amser yn gweithio yn Nhorfaen, yn y Senedd, yn Whitehall ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gweithiodd gyda chyn-aelod Seneddol Torfaen Paul Murphy, fel ymchwilydd ac yna fel Cynghorwr Arbennig yn ystod amser Paul fel Ysgrifennydd Cymru ac Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, gan ddysgu am ddatganoli a’r berthynas rhwng gwanhaol lefelau Llywodraeth.
Gweithiodd yn agos gyda Paul yn yr etholaeth hefyd, gan ddelio ag achosion ar ran trigolion a dod i ddeall rôl cynrychiolaeth leol gwleidyddion etholedig.
Ar y cyngor, gwasanaethodd Anthony fel yr Aelod Gweithredol dros Adnoddau cyn cael ei ethol yn Ddirprwy Arweinydd yn 2015 ac yn arweinydd yn Rhagfyr 2016.
Y tu allan i wleidyddiaeth, mae Anthony yn seiclwr brwd gyda Chlwb Seiclo Pont-y-pŵl ac mae’n gwirfoddoli fel hyfforddwr pêl-droed gyda thimoedd o dan 6 ac o dan 7 Clwb Pêl-Droed Tref Gruffydd. Mae’n hoff o gerddoriaeth (yn arbennig Bruce Springsteen!) a’r celfyddydau, mae hefyd yn gwirfoddoli yn Theatr y Gyngres yng Nghwmbrân.
Mae Anthony yn llywodraethwr yn Ysgol Panteg ac Ysgol Gynradd Tref Gruffydd ac mae’n byw yn nhref Gruffydd gyda’i wraig a’i ddau o blant.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig