Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Mehefin 2023
Mae Parc Pont-y-pŵl yn paratoi ar gyfer ei chweched Digwyddiad Relay for Life, Cancer Research UK, fydd yn cael ei gynnal mewn ychydig dros wythnos!
Rhowch nodyn yn eich dyddiadur i’ch atgoffa am y diwrnod mawr, ddydd Sadwrn 17 Mehefin, fydd yn cychwyn am 10:30 am. Yr Nick Thomas-Symonds MP a’r Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen fydd yn agor y digwyddiad yn swyddogol.
Eleni, mi fydd y ras gyfnewid yn cynnwys 20 o dimau lleol, fydd yn ymgasglu i rasio o amgylch y trac am 24 awr. Ochr yn ochr ag aelodau eu tîm, byddant yn gwersylla yno ac yn cael gwledd o adloniant gan gwahanol grwpiau cymunedol, diddanwyr a Radio SW20.
Mae'r digwyddiad hwn ar agor i'r cyhoedd, fel y gall ymwelwyr fwynhau'r awyrgylch drydanol, dangos cefnogaeth i'r timau a mwynhau'r hanner cant o stondinau crefft a chynnyrch melys, diolch i GW Crafters.
Am 9:30pm, Bydd Relay for Life yn oedi am gyfnod byr ar gyfer seremoni Canhwyllau Gobaith, pan gwahoddir goroeswyr, rhedwyr, cefnogwyr ac ymwelwyr i ymgynnull ger y Bandstant ym Mharc Pont-y-pŵl – ennyd teimladwy iawn i dalu teyrnged i bob bywyd y mae canser wedi cyffwrdd ag ef.
Bydd Bagiau Canhwyllau ar gael i’w haddurno a’u cyflwyno, i gofio am y rheini a gollodd y frwydr, y rhai sydd ar eu siwrnai canser, neu’r goroeswyr hynny sy’n dathlu. Mae bagiau ar gael i'w casglu hyd at 7pm.
Dywedodd Leanne Powell, Cadeirydd Digwyddiad Gwirfoddol Cancer Research UK,: "Ar ran yr elusen, rydym yn gyffrous iawn bod Relay bellach ond wythnos i ffwrdd. Gyda'r paratoadau terfynol yn mynd rhagddynt yn dda, byddai'n wych pe bai’r gymuned leol yn dod allan a chefnogi ein holl redwyr, sy’n rhoi cymaint o’u hamser i godi arian ar gyfer achos mor deilwng.”
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen, a fydd hefyd yn cymryd rhan yn y digwyddiad,: "Mae’r cyngor wrth ei fodd yn cefnogi digwyddiad Relay for Life ym Mharc Pont-y-pŵl eleni. Mae'r fenter gymunedol anhygoel hon yn dwyn ynghyd ein trigolion, timau lleol a Cancer Research UK yn y frwydr yn erbyn canser.
“Rwy'n cymeradwyo'r trefnwyr am eu hymroddiad a'r arian sylweddol y maent yn ei godi ar gyfer ymchwil canser. Dewch i ni uno fel cymuned a gwneud gwahaniaeth go iawn yn y frwydr yn erbyn y fath glefyd haerllug. Anogaf bawb i nodi’r dyddiad yn eu dyddiaduron, sef y 17 Mehefin a dod at ei gilydd am ddiwrnod o undod, gobaith a dathlu.”
Ers ei lansio yn 2016, mae’r digwyddiad cymunedol anhygoel hwn wedi codi’r swm anferthol o £352,000 ar gyfer Ymchwil Canser.
I weld y digwyddiad yn llawn ewch i www.pontypoolrelay.co.uk