Wedi ei bostio ar Dydd Llun 7 Hydref 2024
Mae dros 1,000 o bobl wedi cofrestru ar wefan sydd wedi dod yn siop-un-stop i Dorfaen ar gyfer digwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd i wirfoddoli yn y gymuned.
Efallai eich bod chi’n chwilio ar eich cyfer chi'ch hun, eich teulu neu ffrindiau. Beth bynnag yw’r sefyllfa, mae Cysylltu Torfaen yn cynnwys tua 400 o gyfleoedd cymunedol bob mis, gan gynnwys grwpiau crefft a ffotograffiaeth, dosbarthiadau i rieni a phlant, a sesiynau iechyd a llesiant.
Gallwch weld beth sy'n digwydd yn eich ardal chi gan ddefnyddio'r calendr digwyddiadau newydd neu'r map digidol, yn ogystal â chael gwybod am gyfleoedd i wirfoddoli sy'n cyd-fynd â'ch diddordebau.
Dyna’n union a wnaeth Ellie, sy'n gwirfoddoli gyda Hope for the Community yn Eglwys Sharon ym Mhont-y-pŵl. Meddai:
"Diolch i Cysylltu Torfaen roedd yn hawdd iawn i mi ddod o hyd i rôl wirfoddoli yn agos at fy nghartref. Cefais y cyfle perffaith i wirfoddoli yn eu Caffi a'u Siop Gymunedol.
"Dw i’n gwneud rhywbeth dw i'n ei fwynhau, ond hefyd yn cwrdd â phobl newydd ac yn gwneud gwahaniaeth yn fy nghymuned. Mae gwirfoddoli wedi rhoi hwb i fy hyder, wedi fy helpu i wneud ffrindiau newydd, ac wedi rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato!"
Felly, os hoffech chi helpu mewn digwyddiadau lleol, ymuno â phrosiect garddio cymunedol, neu ddod yn gyfaill i rywun, cewch weld y cyfan ar y wefan. A’r peth gorau am hyn? Mae'n rhad ac am ddim - www.connecttorfaen.org.uk
Tu hwnt i gynnig ar-lein Cysylltu Torfaen, mae’r canolfannau 'Agor Drysau' sy'n cael eu rheoli gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen ac sy'n lleoliadau cymunedol allweddol sy'n ceisio cynyddu ystod ac amrywiaeth y gweithgareddau sydd ar gael ar lefel leol.
Mae pob un o'r 35 canolfan yn ceisio cysylltu'r gymuned â grwpiau a chymorth amlasiantaeth a chymunedol, ac mae rhai lleoliadau'n cynnwys pwynt mynediad digidol i bori’r platfform Cysylltu.
I weld os yw eich canolfan gymunedol yn rhan o'r prosiect, cadwch lygad am yr arwyddion Agor Drysau.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Cyngor Torfaen Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae Cysylltu Torfaen a chanolfannau Agor Drysau yn ffordd wych o gysylltu â'ch cymuned leol, waeth a ydych chi’n ystyried dechrau hobi newydd, eisiau mynd allan mwy, neu eisiau darganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol.
"Mae'n un o sawl ffordd rydyn ni'n gweithio gyda sefydliadau i greu mudiad sydd â'r nod o gysylltu unigolion a grwpiau cymunedol, fel bod y grwpiau'n dod yn fwy cynaliadwy ac yn gallu cysylltu â hyd yn oed mwy o bobl yn y dyfodol."
Cynghrair Gwirfoddol Torfaen sy’n rhedeg Cysylltu Torfaen gyda chefnogaeth Cyngor Torfaen a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.