Wedi ei bostio ar Dydd Iau 30 Ionawr 2025
Blant! Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn lansio cyfres o sesiynau chwarae newydd ar ddydd Sadwrn sy'n cychwyn y penwythnos hwn.
Cynhelir y sesiynau chwarae newydd am ddim i blant, rhwng 5 ac 11 oed, yng Nghanolfan Hamdden Blaenafon, Ysgol Gorllewin Mynwy, Ysgol Gynradd Mair a’r Angylion, Ysgol Gynradd Nant Celyn ac Ysgol Gynradd Gymunedol Blaenem tan ddiwedd mis Mawrth.
Bydd y sesiynau'n cynnwys celf a chrefft, chwaraeon, gweithgareddau dan arweiniad pobl ifanc, tost a byrbrydau iach i gynnal y lefelau egni.
Mae'r sesiynau newydd yn cael eu cyflwyno mewn ymateb i ymgynghoriad diweddar ar gyfer Asesiad Digonolrwydd Chwarae'r cyngor, a dderbyniodd gyfraniadau gan dros fil o blant o dan 12 oed.
Fe wnaeth yr arolwg, a gasglodd gwybodaeth am arferion chwarae a barn y plant, ddatgelu thema gyffredin: awydd am fwy o weithgareddau a phethau i'w gwneud ar benwythnosau.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: “Mae'r fath sesiynau newydd yn ffordd ardderchog o ychwanegu at y portffolio eang o gyfleoedd chwarae a hamdden sydd eisoes ar gael i blant a phobl ifanc yn Nhorfaen.”
“Mae'n wych clywed y byddant yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â Thîm Torfaen Mwy Diogel a Thîm Diogelwch Cymunedol y cyngor. Bydd hyn yn cefnogi amcanion ein cynllun sirol, sef darparu mwy o gyfleoedd chwarae a hamdden i blant, i gynorthwyo eu lles a'u datblygiad yn gyffredinol.”
Bydd lleoliadau newydd yn cael eu cyflwyno o fis Ebrill, i gynnwys mwy o ardaloedd yn y fwrdeistref, gan sicrhau y gall pob plentyn fanteisio ar gyfleoedd chwarae pleserus a chyfoethog.
I drefnu lle mewn sesiwn i’ch plentyn, ewch i’r ffurflen gofrestru ar lein, yma
I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch drwy e-bostio torfaenplay@torfaen.gov.uk