Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 10 Ionawr 2025
Mae menyw o Pontypwl ar ei ffordd i wireddu gyrfa ei breuddwydion, diolch i wirfoddoli.
Roedd Cynghrair Gwirfoddol Torfaen wedi rhoi Ellie Stevens, sy’n 20 oed, mewn cysylltiad â chanolfan Gobaith i’r Gymuned yn Eglwys Saron, ym Mhont-y-pŵl, fel ffordd o ddysgu sgiliau ymarferol i gefnogi ei chwrs hylendid bwyd.
Ers hynny, mae Ellie wedi dod yn aelod allweddol o'r tîm, sy'n cefnogi unigolion a theuluoedd mewn angen, ac mae'n cynllunio gyrfa ym maes gwaith cymunedol.
Cafodd y rôl ei phostio ar wefan Cysylltu Torfaen ac mae Ellie nawr yn annog eraill i ymweld â'r wefan a chael gwybod am gyfleoedd i wirfoddoli yn eu hardal leol.
Meddai Ellie: "Roeddwn i'n edrych am rôl a oedd yn cynnig amrywiaeth a phrofiadau newydd bob dydd. Y lleoliad hwn yn Gobaith i’r Gymuned yw fy rôl wirfoddoli gyntaf a gobeithiaf ei bod yn nodi dechrau fy nhaith ym maes gwaith cymunedol.
"Mae Cysylltu Torfaen yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer darganfod digwyddiadau a chyfleoedd i wirfoddoli yn lleol."
Yn ei rôl wirfoddoli mae Ellie yn gwasanaethu cwsmeriaid yn y siop gymunedol a'r caffi, ac mae hefyd yn helpu mewn digwyddiadau arbennig trwy gydol y flwyddyn.
Fel siaradwr Cymraeg rhugl, mae hi hefyd yn helpu gyda grŵp sy'n siarad Cymraeg sy'n cyfarfod yn y caffi.
Mae hi'n gobeithio dechrau prentisiaeth gyda Gobaith i’r Gymuned yn nes ymlaen eleni.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Trwy weithio gyda mudiadau fel Gobaith i’r Gymuned a Chynghrair Gwirfoddol Torfaen, rydyn ni’n galluogi unigolion i ennill sgiliau gwerthfawr a chyfrannu mewn ffordd ystyrlon at eu cymunedau.
"Mae ein dull gweithredu yn cefnogi, yn hwyluso ac yn grymuso trigolion i ddod o hyd i’r cyfle iawn sy’n addas iddyn nhw, gan roi hwb i ysbryd y gymuned a ffrwyno talentau amrywiol ar draws y Fwrdeistref. Mae stori Ellie yn enghraifft o sut rydyn ni'n helpu unigolion i gyflawni eu nodau a chryfhau ffabrig ein cymunedau ar yr un pryd."
Os ydych chi'n chwilio am rôl wirfoddoli eich breuddwydion, neu eisiau ymrwymo ychydig oriau bob wythnos i gefnogi prosiectau cymunedol yn Nhorfaen, ewch i
www.connecttorfaen.org.uk