Gwefan yn siop un stop ar gyfer digwyddiadau

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 11 Tachwedd 2024
CoStar image

Mae bron i 300 o grwpiau a sefydliadau cymunedol bellach yn defnyddio gwefan Cysylltu Torfaen i hyrwyddo eu digwyddiadau a’u gwasanaethau.

Mae tua 400 o eitemau cymunedol ar y wefan bob mis, ar gyfartaledd, ac mae’n golygu mai dyma siop un stop Torfaen ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau lleol.

Mae Partneriaeth CoStar yn Fairwater, Cwmbrân, wedi bod yn defnyddio'r wefan ers ei lansio yn 2021.

Meddai Samantha Lowery, o CoStar (sydd yn y llun): "Mae Cysylltu Torfaen yn llwyfan gwych i hysbysebu yr holl ddigwyddiadau sydd gennym ar droed a gweithgareddau rheolaidd ein grwpiau.  Mae bod ar y wefan wedi cynyddu nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn ein digwyddiadau a'n gweithgareddau. Mae hefyd wedi gwella ein cysylltiadau â grwpiau a digwyddiadau eraill, ac felly mae CoStar a'n cleientiaid wedi elwa."

Mae cael amrywiaeth o grwpiau ac eitemau mewn un lle hefyd yn helpu trigolion i ddod i gyswllt â'u cymunedau.

Meddai Brenda Flewelling, o Glwb Allsorts yng Nghwmbrân, sy'n cwrdd i chwarae gêmau bwrdd a dysgu crefftau: "Mae'n ddefnyddiol iawn cael yr holl wybodaeth mewn un lle er mwyn i fi allu ei phasio ymlaen at bobl eraill."

Gallwch ymuno â gwefan Cysylltu Torfaen yn rhad ac am ddim ac mae'n gyfle i grwpiau hyrwyddo digwyddiadau a gwasanaethau, tynnu sylw at gyfleoedd i wirfoddoli a dod i gyswllt â sefydliadau lleol eraill.

Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol dros Gymunedau: "Mae Cysylltu Torfaen yn adnodd amhrisiadwy i'n cymuned, ac yn dod ag ystod eang o wasanaethau a digwyddiadau at ei gilydd mewn un hwb hygyrch ar-lein. Gall grwpiau a sefydliadau lleol elwa'n fawr trwy ymuno, cael eu gweld a dod i gyswllt â chynulleidfa newydd sy'n tyfu, mewn ffordd fwy effeithiol."

Cynghrair Gwirfoddol Torfaen sy’n rhedeg gwefan Cysylltu Torfaen ac mae’n cael cefnogaeth gan Gyngor Torfaen a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

I gofrestru, ewch i wefan Cysylltu Torfaen.

Diwygiwyd Diwethaf: 11/11/2024 Nôl i’r Brig