Wedi ei bostio ar Dydd Iau 6 Gorffennaf 2023
Ydych chi’n gwybod am wirfoddolwr, grŵp cymunedol neu fusnes sy’n mynd yr ail filltir dros eu cymuned?
Os felly, beth am eu henwebu ar gyfer Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr Torfaen eleni.
Bwriad y seremoni wobrwyo yw dathlu arwyr anhysbys mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys yr amgylchedd a chynaliadwyedd, iechyd a busnes a gwobr calon y gymuned – sy’n dathlu llwyddiannau grŵp cymunedol.
I enwebu unigolyn, busnes, sefydliad neu grŵp, ewch y wefan TVA Cymru - https://tvawales.org.uk/volunteer-awards/
Bydd enwebiadau’n cau am hanner nos ar 30 Gorffennaf 2023. Cynhelir y seremoni wobrwyo fis Hydref yng Ngwesty’r Parkway yng Nghwmbrân.
Dywedodd Aimi Morris, Swyddog Gweithredol yng Nghynghrair Gwirfoddol Torfaen: “Mae’r gwobrau yma’n gyfle i ni amlygu effaith enfawr gwirfoddolwyr ledled Torfaen. Mae gwirfoddolwyr wedi cefnogi cymaint o bobl yn ein cymunedau, a byddai hyn wedi bod yn amhosibl pe baen ni i gyd wedi gweithio ar ein pennau ein hunain. Rydym yn falch, yn ddiolchgar, ac mewn dyled i’r rheiny a ddaeth i’r adwy.
“Rwy’n gobeithio y byddwch yn ymuno â ni wrth ddiolch i bawb trwy ddefnyddio’r hashnod #TorfaenYnDiolch. Os ydych chi wedi bod yn wirfoddolwr neu wedi elwa o wirfoddoli, enwebwch a rhannwch yn newyddion gyda ni yn y cyfryngau cymdeithasol!”
Datblygwyd Gwobrau Cymunedol a Gwirfoddolwyr Torfaen gan Gynghrair Gwirfoddol Torfaen, BIP Aneurin Bevan a Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, ac maen nhw wedi tyfu ers hynny i gynnwys cymdeithasau tai a busnesau lleol.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn rhoi ychydig o oriau i wirfoddoli, gallwch gael hyd i nifer o gyfleoedd ar
wefan Cysylltu Torfaen