Wedi ei bostio ar Dydd Llun 12 Medi 2022
Ymgasglodd cynghorwyr ac arweinwyr dinesig yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl ar ddydd Sul ar gyfer Proclamasiwn y Brenin Charles III.
Cyflwynwyd y Proclamasiwn yn ddwyieithog ac fe’i cyflwynwyd gan yr Aelod Llywyddol y Cynghorydd Rosemarie Seabourne a’i ddarllen allan gan Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt.
Roedd yn dilyn nifer o ddigwyddiadau arbennig o gwmpas Cymru i ddatgan y brenin newydd a thalu teyrnged i’r Frenhines, a fu farw ddydd Iau, gan gynnwys seremoni ranbarthol yng Nghyngor Dinas Casnewydd.
Gwahoddwyd aelodau o’r cyhoedd i wylio’r proclamasiwn ar wasanaeth gwe-ddarlledu’r Cyngor a Facebook Live. Gallwch wylio’r proclamasiwn yma.
Yn gynharach yn y dydd, codwyd baneri y tu allan i’r Ganolfan Ddinesig o hanner mast i fast llawn i gydnabod y proclamasiwn.
Ar ôl y proclamasiwn, cawsant eu dychwelyd i hanner mast a byddant yn aros felly tan ar ôl angladd y Frenhines ar ddydd Llun 19 Medi.
Mae Llyfrau Cydymdeimlo ar gael i drigolion lleol eu llofnodi yng Nghanolfan Ddinesig Pont-y-pŵl, Canolfan Dreftadaeth y Byd Blaenafon a Llyfrgell Cwmbrân. Ewch i’n gwefan i weld manylion yr oriau agor.
Gall unrhyw un sy’n dymuno adael blodau wneud hynny wrth gatiau coffa Parc Pont-y-pŵl, gyferbyn â’r Ganolfan Ddinesig.