Pencampwyr sbwriel yn casglu 10,000 sach sbwriel

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 13 Medi 2024

Mae grŵp a sefydlwyd gan bâr codi sbwriel wedi casglu sach sbwriel rhif 10,000. 

Sefydlwyd Pencampwyr Sbwriel Torfaen gan Ron Ford a Jennie Simons yn 2018 ar ôl i’r ddau fod yn codi sbwriel ar wahân am nifer o flynyddoedd. 

Mae gan y grŵp wyth aelod nawr sy’n codi sbwriel dwywaith yr wythnos ar gyfartaledd yn y gaeaf ac unwaith yr wythnos yn yr haf.   

Dywedodd Ron, o Dref Gruffydd, Pont-y-pŵl: “Casglon ni’r 10,000fed sach o sbwriel yn ystod yr haf.  Mae’n anhygoel gweld faint gallwn ni ei gyflawni pan rydym yn dod at ein gilydd.  

“Rwy’ wedi bod yn codi sbwriel am 10 mlynedd a dydw i byth yn blino gwneud. Mae’n fy ngwneud yn falch gweld darn glân o dir, ac mae’n fy nghadw i’n ffit ac yn iach. 

“Rydw i hefyd wedi gwneud ffrindiau da, a dyna pam rwy’n annog unrhyw un sy’n meddwl ymuno â’n grŵp i wneud hynny.  Bydd croeso cynnes i chi.” 

Cefnogir y grŵp gan Swyddog Amgylchedd Cymunedol Cyngor Torfaen, Oliver James, sy’n darparu offer codi sbwriel fel bagiau i’r grŵp. Mae Oliver hefyd yn gweithio'n agos gyda'r grŵp ar ddyddiadau allweddol fel Gwanwyn Glân Torfaen, gyda'i gilydd maent hefyd yn rhannu gwybodaeth am fannau drwg yn y fwrdeistref.

Dywedodd Oliver: “Mae Ron, Jennie a Phencampwyr Sbwriel Torfaen yn ysbrydoledig ac yn dangos beth sy’n gallu cael ei gyflawni pan fo cymunedau’n dod at ei gilydd. 

“Yn ddelfrydol, fyddai pobl ddim yn gollwng sbwriel neu bydden nhw’n codi unrhyw sbwriel y maen nhw’n ei weld, ond mae ein hamgylchedd yn le glanach diolch i gymorth ein gwirfoddolwyr.”  

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: “Mae’r garreg filltir yma’n chwerwfelys.  Mae’n llwyddiant anhygoel gan y gwirfoddolwyr, ond mae’n drist hefyd meddwl fod cymaint o sbwriel wedi ei daflu i’r llawr pan fo biniau ar gael.

“Rydym yn hynod o falch o’n gwirfoddolwyr, ac mae eu hymrwymiad a’u gwaith caled yn parhau i gael effaith yn ein cymuned.  Mae pob bag sbwriel sy’n cael ei gasglu’n gam tuag at Dorfaen glanach, gwyrddach.”

Gallwch gael mwy o wybodaeth am Bencampwyr Sbwriel Torfaen trwy eu dilyn ar Facebook. 

Gall grwpiau codi sbwriel neu wirfoddolwyr unigol gael benthyg offer am ddim, gan gynnwys codwyr sbwriel, cylchoedd, sachau, a dillad high-vis er mwyn trefnu eu casgliadau sbwriel eu hunain.  Ewch i un o’n canolfannau codi sbwriel: 

  • Ysgol Treftadaeth Wirfoddol Blaenafon 
  • Circulate Furniture Recycling, Blaenafon 
  • Partneriaeth Costar, Y Ddôl Werdd
  • Cyngor Cymuned Cwmbrân, Ventnor Road, Cwmbrân 
  • Partneriaeth Garnsychan, Abersychan 
  • Canolfan Ymwelwyr a Gweithgareddau Llyn Llandegfedd 
  • Marchnad Pont-y-pŵl 
  • Caffi’r Cwt Cychod, Llyn Cychod Cwmbrân
  • Canolfan Gymunedol Bryn Eithin, Cwmbrân 
  • Zero Waste Torfaen, Pentre Isaf 

Gallwch gofrestru eich busnes, eich ysgol neu grŵp cymunedol fel Parth Di-sbwriel.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag oliver.james@torfaen.gov.uk 

Dysgwch fwy am sut mae’r cyngor yn mynd i’r afael â sbwriel a thipio anghyfreithlon 

 Llun: Ron Ford, Jennie Simons, Ken Lapping

 

Diwygiwyd Diwethaf: 13/09/2024 Nôl i’r Brig