Gwahodd y cyhoedd i ymuno â thrafodaethau'r gyllideb

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Medi 2024
IMG_5803

Mae trigolion wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn trafodaethau cyn cyllideb y cyngor y flwyddyn nesaf. 

Wrth siarad mewn cyfarfod cyhoeddus neithiwr yn siambr y Ganolfan Ddinesig, amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, Robert Green, sut mae’r cyngor yn gosod ei gyllideb flynyddol, gan ystyried ariannu disgwyliedig, amcangyfrif o gynnydd mewn costau a’r galw a ddisgwylir am wasanaethau. 

Dywedodd Mr Green: "Yn gyfreithiol, mae’n rhaid i ni osod cyllideb gytbwys – ni allwn ni fenthyg arian i dalu am wasanaethau dydd i ddydd.

"Mae gan y prif swyddog ariannol ddyletswydd statudol i wneud sylw ar wytnwch y gyllideb flynyddol."

Gofynnodd aelod o’r cyhoedd a oedd y cyngor yn bwriadu gwneud unrhyw beth i helpu trigolion sy’n cael eu heffeithio gan doriadau i’r lwfans tanwydd.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Rydym ni’n gwneud nifer o bethau – mae ein cronfa yn ôl disgresiwn wedi ei chynyddu i helpu pobl sy’n mynd i drafferthion. Mae gan ein tîm refeniw a budd-daliadau hanes ardderchog o helpu pobl sy’n cael anawsterau.

"Rydym ni hefyd yn mynd i gynnal ymgyrch mawr i gynyddu niferoedd sy’n derbyn Credyd Pensiwn gan fod nifer o bobl sy’n gymwys ddim yn sylweddoli hynny."

Bydd trigolion yn gallu gwneud sylw ar gyllideb ddrafft 2025/6 yn yr hydref ac eto yn y flwyddyn newydd ar ôl cyhoeddi setliad Llywodraeth Cymru. Gallwch ddilyn y broses ar ein gwefan neu ar Cymryd Rhan Torfaen.

Trafododd cyfarfod Panel y Bobl hefyd sut all gwelliannau gael eu gwneud i bwyllgorau Trosolwg a Chraffu’r cyngor i’w wneud yn haws i drigolion gymryd rhan.

Cafodd aelodau’r cyhoedd gyfle hefyd i ofyn cwestiynau am arolwg Hawliau Tramwy Cyhoeddus y Cyngor ac ymgynghoriad Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent am flaenoriaethau plismona.

Gallwch ddysgu am ddigwyddiadau Panel y Bobl yn y dyfodol ac ymgynghoriadau cyhoeddus trwy gofrestru ar wefan Cymryd Rhan Torfaen

Dysgwch am banelau eraill yn Nhorfaen 

Diwygiwyd Diwethaf: 18/09/2024 Nôl i’r Brig