Cynllun gwresogi am ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 11 Medi 2024

Mae menter i helpu aelwydydd ar incwm isel neu fudd-daliadau er mwyn iddynt fforddio rhoi'r gwres ymlaen y gaeaf hwn wedi cael ei lansio gan Gyngor Torfaen.  

Mae'r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni am ddim ar gyfer Gwresogi Domestig yn gwella effeithiolrwydd systemau gwresogi, sy'n lleihau’r ynni sy'n cael ei ddefnyddio – felly’n arbed arian a lleihau allyriadau carbon.

Mae'n gweithio trwy osod ychwanegyn o'r enw Endotherm mewn systemau gwres canolog sy'n galluogi'r system wresogi i gynhesu'n gyflymach a chadw’n boeth am gyfnod hirach.

Mae'r broses yn cymryd 10 munud ac amcangyfrifir ei bod yn arbed hyd at £168 y flwyddyn i berchnogion tai.

Mae'r cynllun yn agored i breswylwyr sydd ar incwm isel neu fudd-daliadau, sydd wedi bod mewn dyled ynni neu sydd â chyflwr iechyd sy’n gwaethygu wrth fyw mewn cartref oer.

Mae'n agored i bobl sy’n berchen ar eu tai a phobl sy'n rhentu'n breifat, os oes ganddynt system gwres canolog gwlyb neu foeler.

Dywedodd Gary Meale, Swyddog Datgarboneiddio Cymunedol Cyngor Torfaen,: "Yn ôl yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni mae biliau gwresogi cartref ar gyfartaledd tua £600 y flwyddyn, ac eithrio taliadau sefydlog. Fodd bynnag, bydd hyn yn codi gyda'r cynnydd yn y cap pris.

"Profwyd bod Endotherm yn gallu arbed hyd at 15% neu fwy y flwyddyn ar gostau gwresogi cartref. Mae’r ychwanegyn yn gallu parhau dros 10 mlynedd, a gyda phrisiau ynni'r dyfodol yn debygol o godi, gallai hyn fod yn gyfystyr â thua £1000 ar hyd oes y cynnyrch."

Mae’r Cynllun Effeithlonrwydd Ynni ar gyfer Gwresogi Domestig yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU. Disgwylir y bydd y gronfa yn talu costau 70 o gartrefi.  

I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cais am y cynllun, cysylltwch â Gary.Meale@Torfaen.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 1 Tachwedd, 2024.

Darllen mwy am Endotherm 

Dysgu mwy am gymorth arall tuag at filiau nwy a thrydan: https://www.torfaen.gov.uk/cy/CouncilTaxAndBenefits/Cost-of-Living-Support/Energy-costs/Energy-costs.aspx

Diwygiwyd Diwethaf: 11/09/2024 Nôl i’r Brig