Fforwm Ieuenctid yn croesawu aelodau newydd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 19 Medi 2024
Youth Forum 2024-5

Croesawodd Fforwm Ieuenctid Torfaen aelodau newydd pan wnaethant gyfarfod am y tro cyntaf yr wythnos hon ar ôl gwyliau'r haf. 

Cyfarfu'r grŵp, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o ysgolion uwchradd a cholegau lleol, yn y Ganolfan Ddinesig ddoe, lle buont wrthi’n trafod etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru eleni, cynllun gweithredu gwrth-hiliol newydd a sut maent yn bwriadu ymgysylltu â phobl ifanc eraill.

Wrth groesawu'r aelodau yn ôl, dywedodd y dirprwy gadeirydd Boyd Paynter: "Bydd gan bob un ohonom ein rhesymau ein hunain dros fod yma, ond rydym ni i gyd eisiau sicrhau bod gan ein pobl ifanc lais."

Dywedodd yr aelodau eu bod am ganolbwyntio ar faterion sy’n cynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, cydraddoldeb mewn addysg, bwlio, swyddi i bobl ifanc dan 18 oed a sbwriel.  

Dywedodd Grace, 11, o Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Alban: "Roeddwn i eisiau ymuno â'r fforwm oherwydd roeddwn i eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl newydd."

Ychwanegodd Izzie, 11, hefyd o Sant Alban: "Rwyf am ddysgu mwy am yr hyn y mae'r cyngor yn ei wneud a rhoi cynnig ar rywbeth newydd."

Dywedodd sawl aelod o'r fforwm eu bod yn bwriadu sefyll yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru, sy'n cael eu cynnal ddydd Llun 25 Tachwedd.

Gall unrhyw un rhwng 11 a 17 oed gofrestru fel ymgeisydd, a bydd yr aelodau llwyddiannus yn cael sefyll am ddwy flynedd. I gael gwybod mwy, ewch i dudalen we y Senedd Ieuenctid

Mae Fforwm Ieuenctid Torfaen yn agored i bobl ifanc, rhwng 11 a 18 oed. Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn ymuno, gysylltu ag arweinydd cyfranogiad eu hysgol neu Philip Wilson, Swyddog Ymgysylltu a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cyngor Torfaen, ar philip.wilson@torfaen.gov.uk.

Mae'r grŵp yn cyfarfod ar ôl ysgol yn y Ganolfan Ddinesig, ym Mhont-y-pŵl, unwaith y mis. Darperir cludiant a bwyd ac mae'r grŵp yn cynllunio taith gymdeithasol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Mae fforwm iau ar wahân i ddisgyblion ysgolion cynradd yn cael ei lansio fis nesaf.  

Bydd y ddau fforwm yn rhan o Gynghrair Ieuenctid newydd Torfaen fydd yn cyfarfod ym mis Tachwedd. Eu nod yw ceisio cynrychioli lleisiau pob grŵp o bobl ifanc yn y fwrdeistref.

Diwygiwyd Diwethaf: 19/09/2024 Nôl i’r Brig