Wedi ei bostio ar Dydd Iau 8 Medi 2022
Cafodd ffoaduriaid o Wcráin sy'n byw ledled Gwent, gyfle i gwrdd â'i gilydd mewn picnic arbennig ym Mharc Pont-y-pŵl dros y penwythnos.
Fe ddaeth tua 100 o deuluoedd, unigolion a noddwyr i'r digwyddiad ar brynhawn Sadwrn. Roedd y digwyddiad yn cynnwys bwffe, cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a thaith am ddim i Amgueddfa Torfaen.
Trefnwyd y cyfan gan dîm Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol Cyngor Torfaen, sy'n darparu cefnogaeth i 81 o ffoaduriaid sy'n byw yn Nhorfaen a Blaenau Gwent fel rhan o gynlluniau fisa i deuluoedd, noddwyr unigol neu gynlluniau uwch-noddwyr. Mae'r tîm hefyd
yn darparu cefnogaeth i Ganolfan Groeso Llywodraeth Cymru yng Nglyn Ebwy.
Dywedodd Nataliya Tatarenko, sy'n dod o Wcráin a bellach yn helpu ffoaduriaid yn y ganolfan groeso: "Roedd yn dda siarad ag Wcrainiaid eraill a ddaeth i Gymru drwy'r cynllun uwch-noddwyr ac sydd heb gyrraedd y teuluoedd sy'n eu croesawu hyd yn hyn.
"Fe wnaethon ni rannu taith braf ar droed drwy'r parc ac ymweld â'r amgueddfa a gobeithio y gallwn ni wneud rhywbeth fel hyn eto."
Dywedodd y Cynghorydd David Davies, yr Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Roedd hi'n wych gweld pobl yn mwynhau eu hunain ond roedd yn emosiynol ar adegau, yn enwedig pan oedd pobl o'r un rhannau o Wcráin wedi cyfnewid eu profiadau o'r rhyfel.
"Profiad tra wylaidd oedd gwrando ar brofiadau'r unigolion a'r teuluoedd hynny sydd wedi dianc o'r gwrthdaro.
"Hoffwn ddiolch i'r tîm a drefnodd y digwyddiad ac Adran Datblygu Chwaraeon Torfaen, Ymddiriedolaeth Hamdden Torfaen, Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen a K-Dee Catering a gynigiodd eu cefnogaeth."
Mae'r tîm cydlyniant yn bwriadu trefnu ail gyfle iddynt ddod ynghyd dros y Nadolig.
Mae cynllun Llywodraeth Cymru, Cartrefi i Wcráin, yn cysylltu teuluoedd, cyplau ac unigolion sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin gyda phobl yng Nghymru sydd wedi cynnig bod yn noddwyr.
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn noddwr ddod o hyd i wybodaeth am y cynllun a pha gymorth a chefnogaeth sydd ar gael i noddwyr, ar ein gwefan.
Mae Helen Jenkins o Gwmbrân, yn un o’r noddwyr yn Nhorfaen. Gallwch glywed am ei phrofiadau yma.