Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Tachwedd 2022
Mae Cyngor Torfaen yn gofyn am adborth ar eu cynllun sirol newydd. Mae’r cynllun sirol yn cyflwyno 9 nod lles a fydd yn helpu i benderfynu pa wasanaethau mae’r cyngor yn cyflenwi a sut y bydd yn blaenoriaethu arian rhwng 2022 a 2027.
Dywedodd y Cyng. Anthony Hunt: “Mae ein cynllun sirol wedi ei ddatblygu ar sail ymrwymiadau a gafodd eu gwneud i’r cyhoedd i wella ein sir, a gyrwyr allweddol ynglŷn â sut byddwn yn gweithio i wella lles cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Torfaen.
“Mae pandemig Covid a’r argyfwng costau byw presennol wedi ein hatgoffa am bwysigrwydd gwasanaethau rheng flaen y cyngor a’n rôl wrth gefnogi pobl a chymunedau. Mae e hefyd wedi cadarnhau'r nerth sy’n dod o gydweithio i wella bywydau pobl.
“Rydym yn realistig ynglŷn â maint yr her bresennol - mae colli arian gan y llywodraeth, cynnydd mewn costau trwy chwyddiant a galwadau cyfnewidiol yn golygu wynebu dewisiadau anodd ynglŷn â ble i ganolbwyntio adnoddau. Dylai pob dim yr ydym yn gwneud gael ei yrru gan yr angen i helpu trigolion i fyw eu bywydau pob dydd a rhoi cefnogaeth pan fydd ei hangen fwyaf ar adegau gwahanol yn eu bywydau.
Dywedodd Prif Weithredwr y cyngor, Stephen Vickers: “Rydym wedi cyflwyno’n huchelgeisiau a’n dyheadau ar gyfer Torfaen am y 5 mlynedd nesaf ac mae ein cynllun sirol yn ymwneud â chyflenwi nawr. Bydd y cynllun yn llywio sut byddwn yn ymateb i anghenion, heriau a chyfleoedd i’n trigolion a’n cymunedau. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu’n rheolaidd i sicrhau bod ein huchelgeisiau’n troi at y camau cywir.
“Fel teuluoedd ledled y fwrdeistref, rydym hefyd yn profi costau chwyddiant sylweddol sy’n creu ein pwysau ‘cost cyflenwi’ ein hunain. Serch hynny, er bod yr hinsawdd ariannol yn heriol, nid yw hyn yn amser i leihau ein huchelgais ar gyfer y wlad.”
Mae’r cynllun yn amlinellu 4 thema o Lesiant, Cynaliadwyedd, Cysylltedd a Diwylliant a Threftadaeth a 9 nod llesiant a fydd yn cael eu defnyddio i lywio proses y cyngor o wneud polisi a threfnu gwasanaethau dros y 5 mlynedd nesaf.
Y 9 amcan llesiant yw:
- Byddwn yn codi cyrhaeddiad addysgol, gan helpu pobl ifanc ac oedolion i gael y cymwysterau a’r sgiliau y mae eu hangen i fyw bywydau cadarnhaol
- Byddwn yn annog ac yn hybu plant, pobl ifanc a theuluoedd fel y gallan nhw ffynnu
- Byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar weithgareddau adnabod ac atal sy’n cefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol a boddhaus
- Byddwn yn gwneud Torfaen yn fwy cynaliadwy trwy gysylltu pobl a chymunedau, yn gymdeithasol, yn ddigidol ac yn gorfforol
- Byddwn yn ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ailgylchu mwy ac yn gwneud gwelliannau i’r amgylchedd lleol
- Byddwn yn gwneud Torfaen yn lle gwych i fod mewn busnes trwy weithio gyda chyflogwyr lleol, annog busnesau newydd a gweithgareddau entrepreneuraidd
- Byddwn yn hybu bywydau mwy iach yn Nhorfaen er mwyn gwella lles meddyliol a chorfforol
- Byddwn yn cefnogi ein diwylliant a threftadaeth leol ac yn gwneud Torfaen yn lle ffyniannus, diogel a deniadol i fyw ac i ymweld ag e.
- Byddwn yn darparu gwasanaethau effeithlon sy’n canolbwyntio ar y cwsmer ac sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael gwasanaethau
Mae’n cynnwys cynllun cyflenwi blynyddol, a fydd yn gosod gerbron y targedau ar gyfer pob blwyddyn ac adolygiad o dargedau’r flwyddyn gynt.
I weld y cynllun ac i leisio’ch barn, ewch i Dweud Eich Dweud Torfaen.
Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein harolwg blynyddol o drigolion a dweud wrthym ni beth yw eich blaenoriaethau ar Get Involved Torfaen.
Neu gallwch fynd i un o’n sesiynau galw heibio cyhoeddus a siarad â’n tîm ymgysylltiad:
* Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, dydd Mercher, Tachwedd 16, 10am tan 4pm
* Canolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon, dydd Mercher, Tachwedd 23, 10am tan 4pm