Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 11 Tachwedd 2022
Yn digwydd ar 13 Tachwedd 2022, mae Sul y Coffa yn ddyddiad pwysig yng nghalendr blynyddol y genedl.
I nodi’r achlysur, mae cyfres o orymdeithiau a gwasanaethau wedi’u trefnu ar draws y fwrdeistref sirol.
Disgwylir i gannoedd o bobl ledled Torfaen ddod at ei gilydd i gofio’r sawl a wasanaethodd ac sy’n parhau i wasanaethu mewn anghydfodau milwrol, i amddiffyn ein rhyddid democrataidd a’n ffordd o fyw.
Blaenafon
10.40am - Gorymdaith o’r Maes Parcio Uchaf, gan orymdeithio trwy BroadStreet ac Ivor Street at y Senotaff
11.00am - Gosod torchau a gwasanaeth wrth y Senotaff
Cwmbrân
10.25am - Yr Orymdaith yn gadael Wesley Street/Clomendy Road am Barc Cwmbrân
10.50am - Gweithred Goffa ym Mharc Cwmbrân
Y Dafarn Newydd
10.00am - Gorymdaith yn ymgasglu wrth Neuadd Eglwys y Santes Fair, The Highway, Y Dafarn Newydd
10.10am - Gorymdaith yn symud tuag at Eglwys y Santes Fair
10.30am - Gwasanaeth yn Eglwys y Santes Fair
11.20am - Gorymdaith yn dychwelyd at Neuadd Eglwys y Santes Fair
Pontnewydd
10.15am - Gorymdaith yn ymgasglu
10.30am - Gorymdaith o Glwb Lleng Brydeinig Pontnewydd, Station Road, Pontnewydd ar gyfer seremoni gosod torchau a gwasanaeth wrth ySenotaff. Bydd dwy funud o dawelwch am 11.00am
Pont-y-pŵl
11.45am - Gorymdaith yn ymgynnull ar Commercial Street, Canol Tref Pont-y-pŵl
12.00noon - Gorymdaith yn symud o bwynt ymgasglu at y Clwydi Coffa, Pont-y-pŵl ar gyfer gwasanaeth a seremoni gosod torchau; dychwelyd trwy gylchfan Clarence
Bydd cau ffyrdd am gyfnod o 30 munud cyn ac ar ôl orffen y gorymdeithiau.
Meddai Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Torfaen, y Cynghorydd John Horlor “Mae Sul y Coffa yn ddyddiad pwysig iawn yn ein calendr o ddigwyddiadau, gyda channoedd o bobl leol, hen ac ifanc, yn gallu talu teyrnged i’r sawl sydd wedi marw a’r sawl sy’n parhau i wasanaethu.
Mae rhestr lawn o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnal ar y diwrnod, i’w gweld ar
wefan Cyngor Torfaen.