Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 1 Tachwedd 2022
Mae adroddiad ar gyllideb Cyngor Torfaen ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, 2023-2024, wedi amlygu bwlch ariannu posibl o £12.5 miliwn.
Mae’r adroddiad, sydd i’w ystyried gan Bwyllgor Trawsbynciol Trosolwg a Chraffu Adnoddau a Busnes y Cyngor yr wythnos nesaf, yn darogan y bydd y gwariant net tebygol ar draws pob maes gwasanaeth yn 2023-2024 yn £228.7m.
Mae’r amcanestyniad yn dangos her ariannu gychwynnol o £19 miliwn, cyn y cymerir cyllid Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor i ystyriaeth, a fyddai’n ei leihau i £12.5 miliwn.
Dywedir wrth y Cynghorwyr yn y cyfarfod bod y costau tebygol wedi cymryd nifer o ffactorau i ystyriaeth, gan gynnwys pwysau chwyddiant arwyddocaol, cynnydd mewn costau ynni, a chynnydd mewn cyflog i staff.
Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol ar gyfer Adnoddau: "Mae’r ffigurau hyn yn ddigon i sobri ac yn cynrychioli her ariannol arwyddocaol anodd iawn, mor anodd ag unrhyw beth rydym wedi ei weld yn ystod y blynyddoedd o gyni.
"Diolch i reolaeth ariannol ddarbodus y Cyngor, mae ein sefyllfa ariannol bresennol yn gymharol gryf. Byddwn yn gwneud popeth a allwn i amddiffyn ein gwasanaethau rheng flaen cyn belled ag y bo modd, ond mae dewisiadau anodd o’n blaenau.
“Ond, fel aelwydydd, rydym yn wynebu pwysau chwyddiant sy’n rhoi pwysau ar ein cyllid. Bydd cynghorwyr nawr yn ystyried opsiynau i ddelio gyda’r bwlch ariannu, a hoffem hefyd glywed eich barn chi. Galwch gyfrannu at y drafodaeth drwy ein hwb cymunedol arlein."
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i Dweud eich Dweud Torfaen.
Gallwch hefyd leisio barn ar ein darpariaeth gwasanaeth bresennol yn ein harolwg trigolion a’r cynlluniau ar gyfer y pum mlynedd yn ein hymgynghoriad ar ein Cynllun Sirol.
Ym mis Mawrth, cytunodd cynghorwyr gyfyngu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf i 1.95%, a fydd yn aros yn ei le.
Mae gofyn i’r Cyngor gwblhau a chymeradwyo cyllideb y flwyddyn nesaf erbyn 10 Mawrth 2023.
Bydd y Pwyllgor Trawsbynciol Trosolwg a Chraffu Adnoddau a Busnes yn cyfarfod am 2pm ar ddydd Mawrth 8 Tachwedd. Gallwch wylio’r cyfarfod yn fyw yma.
Cliciwch yma i weld Adroddiad craffu cyllideb