Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 18 Mai 2022
Mae adroddiad arolygu diweddar gan Estyn, Arolygiaeth Ei Mawrhydi ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ar wasanaeth addysg y cyngor yn ystod mis Mawrth 2022, wedi darparu barn gyffredinol ar berfformiad presennol y gwasanaeth.
Yn unol â’r Ddeddf Addysg 2005, gwnaeth Prif Arolygydd Ei Mawrhydi, Estyn, yr argymhellion canlynol:
- Gwella canlyniadau i ddysgwyr, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd
- Cryfhau rheoli perfformiad
- Cryfhau hunanwerthuso a phrosesau cynllunio gwelliannau a’r cysylltiad rhyngddynt
- Gwella arweinyddiaeth strategol o ddysgu ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Bydd Estyn nawr yn arolygu cynnydd drwy gyfrwng cynllun gweithredu ar ôl arolygiad a pharhau i fonitro’r gwasanaeth.
Meddai Prif Weithredwr y cyngor, Stephen Vickers: ‘Rydym yn derbyn yn llawn ddarganfyddiadau’r adroddiad, ac yn cydnabod y gwelliannau sydd mawr eu hangen, a adnabuwyd gan yr arolygwyr. Mae’n dda bod Estyn hefyd yn cydnabod y buddsoddiad parhaus a’r arweinyddiaeth wleidyddol gref, ein gwaith da yn darparu adeiladau ysgol o ansawdd, a’r arferion cryf iawn yn ein gwasanaeth ieuenctid ac agweddau ar ADY, ond mae angen i gyflymder y newid yn y meysydd a amlinellwyd gynyddu’n gyflym.
‘Mae’r cyngor eisoes wedi cychwyn ar gynllun gweithredu ar ôl arolygiad i ddelio gyda’r argymhellion a byddwn yn gweithio gydag Estyn, y consortiwm rhanbarthol ac arweinwyr ysgolion i wella canlyniadau i ddisgyblion.
'O ystyried yr apwyntiadau diweddar yn y gwasanaeth addysg a’r gwaith sydd eisoes ar y gweill i wella perfformiad, rwy’n hyderus – gyda chefnogaeth wleidyddol barhaus – y bydd gennym gynnydd arwyddocaol i’w rannu pan fydd yr arolygwyr yn dychwelyd i fonitro cynnydd y gwasanaeth.’
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Addysg: ‘Yn amlwg, mae angen llawer o welliannau ar frys ac er bod Estyn yn cydnabod y cynnydd sydd wedi ei wneud, nid yw cyflymder y newid, yn enwedig mewn nifer o ysgolion uwchradd adeg yr arolygiad hwn, wedi bod yn ddigon cyflym. Rhaid i ni ganolbwyntio ar wella ein prosesau hunanwerthuso a rheoli perfformiad i arddangos gwell canlyniadau i ddysgwyr.'
I weld yr adroddiad llawn, ewch www.estyn.llyw.cymru