Llwyddiant arholiadau i ddisgyblion uwchradd

Wedi ei bostio ar Dydd Iau 22 Awst 2024
Untitled design (9)

Casglodd cannoedd o ddisgyblion Blwyddyn 11 mewn chwech o ysgolion uwchradd yn Nhorfaen eu canlyniadau TGAU heddiw.

Cafodd Alice Miles o Ysgol Croesyceiliog 6a* a 4a, a bydd yn mynd i Barth Dysgu Torfaen i astudio Lefel A mewn astudiaethau ffilm, astudiaethau crefyddol a llenyddiaeth Saesneg.

Cafodd Regan Yates, o Ysgol Gatholig Sant Alban ym Mhont-y-pŵl chwech A*, chwech A, a dau B ac mae’n bwriadu astudio hanes, seicoleg ac Add. Gorfforol yng Ngholeg Henffordd. 

Cafodd Angharad Aldridge, o Ysgol Gymraeg Gwynllyw, ym Mhont-y-pŵl,  A* mewn hanes, bywydeg, celf, llenyddiaeth Saesneg a’r Fagloriaeth Gymreig.  Cafodd hefyd A mewn cemeg, ffiseg a llenyddiaeth Gymraeg ac mae’n bwriadu dychwelyd i astudio Lefel A hanes, Cymraeg a throseddeg ym Medi.

Roedd Deacon Walker, o Ysgol Uwchradd Cwmbrân, wrth ei fodd o gael A mewn TGAU ffotograffiaeth, ac mae’n edrych ymlaen at fynd i Goleg Gwent i astudio dylunio gemau.

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg:

"Llongyfarchiadau i ddisgyblion TGAU a BTEC sy’n cael eu canlyniadau heddiw.  Rydych chi wedi gwneud yn dda iawn i gyrraedd fan hyn ar ôl dechrau yn yr ysgol uwchradd yn ystod pandemig Covid.

"Llongyfarchiadau i staff dysgu a chefnogol ysgolion uwchradd, a’r rheini a theuluoedd, sydd wedi cefnogi a llywio’n disgyblion trwy gydol eu hamser yn yr ysgol uwchradd."

Ychwanegodd pennaeth Ysgol Croesyceiliog, Natalie Richards: “Rwy’n hynod o falch o’n disgyblion sydd nawr yn dechrau pennod nesaf eu bywydau o ganlyniad i’w gwaith caled i gael y canlyniadau yma. Mae’n rhaid i mi ddiolch i’n staff a’n rhieni sy’n annog uchelgais ein disgyblion."

Dywedodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Sant Alban, Stephen Lord: "Rydym mor falch o’r unigolion sydd, eleni’n arbennig, trwy’r heriau y maen nhw wedi eu goresgyn dros y blynyddoedd diwethaf, wedi dangos dycnwch a phenderfyniad i gael llwyddiant anhygoel, gan eu galluogi i ddilyn eu breuddwydion a’u huchelgeisiau yng ngham nesaf eu taith."

Casglodd disgyblion Blwyddyn 11 yn Ysgol Abersychan ac Ysgol Gorllewin Mynwy, Pont-y-pŵl, eu canlyniadau TGAU hefyd.

Ledled Cymru, derbyniodd dros 315,000 o ddisgyblion eu canlyniadau TGAU a chymwysterau Lefel 1 a 2 galwedigaethol a thechnegol heddiw.

Cafodd 96.6 y cant o ddisgyblion raddau  A*-G a chafodd 62.2 y cant raddau A*-C. Pynciau mwyaf poblogaidd eleni oedd gwyddoniaeth, mathemateg, iaith a llenyddiaeth Saesneg, a Chymraeg fel ail iaith.

Llun o’r chwith i’r dde: Regan Yates, Alice Miles, Angharad Aldridge a Deacon Walker.

Diwygiwyd Diwethaf: 22/08/2024 Nôl i’r Brig