Hyfforddiant gweithgynhyrchu uwch yn arwain at swyddi

Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 17 Mawrth 2026
Photo-16-03-2026-12-55-20_test

Mae rhaglen hyfforddi arloesol yn helpu trigolion i symud i sector gweithgynhyrchu a lled-ddargludyddion lefel uchel, sy'n ehangu'n gyflym yng Nghymru.

Mae tri ar ddeg o bobl wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 Gweithgynhyrchu Uwch mewn Technolegau Lled-ddargludyddion, diolch i raglen Torfaen yn Gweithio, a Iungo Training Solutions a ddarparodd yr hyfforddiant.

Dyma'r cwrs cyntaf o'i fath i gael ei redeg gan awdurdod lleol yng Nghymru ac mae'n cael ei ariannu drwy raglen Llywodraeth Cymru, Cymunedau am Waith a Mwy.

Roedd y cwrs yn cyfuno hyfforddiant ymarferol, fel sodro, adeiladu harnais gwifren a chanfod diffygion, ochr yn ochr â theori ar sail adborth gan gyflogwyr lleol sy'n recriwtio yn y sector ar hyn o bryd.

Un o'r rhai a gwblhaodd y cwrs oedd Cai Speirs, 27, o Gwmbrân, sydd ers hynny wedi cael swydd gyda Saffran, yng Nghwmbrân.

Dywedodd: "Roedd y gefnogaeth gan dîm Torfaen yn Gweithio, yn ddefnyddiol iawn, ac aeth y broses gyfan rhagddi’n haws o lawer. Fe wnaethon nhw fy helpu gyda phethau fel diweddaru fy CV.

"Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle, ac yn annog unrhyw un sy'n ystyried dechrau gyrfa yn y sector hwn i fynd ar y cwrs gweithgynhyrchu uwch.”

Mae gweithgynhyrchu uwch sy'n arbenigo mewn technolegau gwyrdd, lled-ddargludyddion a meysydd cysylltiedig, yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r fath gyfle diweddaraf drwy Torfaen yn Gweithio, yn dangos ein bod yn ymrwymo i ysbrydoli dysgu gydol oes ac uchelgais, drwy rymuso pobl o bob oed i fyw bywydau gwybodus, annibynnol a ffyniannus.”

"Rydym yn gwybod bod sgiliau trosglwyddadwy cryf eisoes gan y mwyafrif o bobl sy'n chwilio am waith yn lleol, felly mae'n wych clywed bod y cwrs hwn wedi rhoi'r sgiliau a'r hyder ychwanegol iddynt gael hyd i rolau â chyflog da mewn sector lle mae'r galw yn tyfu'n gyflym."

Mae disgwyl i ail gwrs ddechrau'r wythnos nesaf ac mae rhaglenni pellach wedi'u cynllunio nes ymlaen, eleni.

Mae Torfaen yn Gweithio yn cefnogi trigolion o bob oed i ddatblygu sgiliau a symud i fyd gwaith cynaliadwy. Am ragor o wybodaeth neu gymorth, anfonwch e-bost i employability@torfaen.gov.uk neu ffoniwch 01633 647743

Diwygiwyd Diwethaf: 17/03/2026 Nôl i’r Brig