Wedi ei bostio ar Dydd Iau 15 Awst 2024
Mae cannoedd o ddisgyblion ledled Torfaen wedi casglu eu canlyniadau lefel A a BTEC heddiw.
Daeth tua 100 o ddisgyblion o flynyddoedd 12 a 13 a oedd yn astudio lefelau A ac AS yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, i gasglu eu canlyniadau o’r ysgol y bore yma – gyda nifer o wynebau hapus i’w gweld.
Roedd penderfyniad Tia Goodwin i newid o astudio Cemeg i astudio Hanes ar ddechrau ei blwyddyn olaf yn y chweched dosbarth yn llwyddiant, wrth iddi gael gradd A yn y pwnc, ochr yn ochr â gradd A mewn Saesneg a gradd C mewn Bywydeg.
Dywedodd Tia: “Rwy’n hapus iawn ac yn falch o fy ngraddau ac rwy’n edrych ymlaen at fynd i astudio Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd fis Medi.”
Casglodd dros 2,000 o ddysgwyr sy’n astudio lefel A, BTEC a chymwysterau galwedigaethol yng Ngholeg Gwent eu canlyniadau hefyd, gyda nifer yn mynd i Barth Dysgu Torfaen.
Cafodd 67% o fyfyrwyr Coleg Gwent graddau A*-C yn lefel A a chwblhaodd dros 1,000 o ddysgwyr gymhwyster BTEC.
Mae Molly McAlorum yn un o ddysgwyr hapus Parth Dysgu Torfaen sy’n paratoi i ddechrau pennod newydd yn ei bywyd ar ôl cael tair gradd â rhagoriaeth.
Dywedodd y disgybl Diploma Busnes Lefel 3, sydd wedi sicrhau prentisiaeth busnes gyda GE Aerospace: “Dechreuais yng Ngholeg Gwent heb wybod yn iawn beth roeddwn i am ei wneud fel gyrfa – ond mae fy amser yn y coleg wedi agor fy llygaid i fyd o gyfleoedd na fyddwn i wedi eu cael fel arall.
“Ar ôl sicrhau cyfweliad gyda GE Aerospace, ces i gefnogaeth anhygoel gan fy nhiwtor personol, a dreuliodd oriau yn fy helpu i baratoi. Rhoddodd hyn y cyfle gorau posibl i mi i fod yn llwyddiannus ac rwyf yma heddiw yr un mor llwyddiannus gyda chanlyniadau fy niploma, rwy’n teimlo’n falch ac yn ddiolchgar.”
Yn ogystal â llwyddiant BTEC a lefel A, cwblhaodd dros 150 o ddysgwyr sy’n oedolion eich cyrsiau Mynediad at Addysg uwch gyda Choleg Gwent a byddan nhw’n mynd ymlaen at gwrs gradd mewn prifysgol.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Addysg yng Nghyngor Torfaen:
"Hoffwn longyfarch yn ddiffuant y bobl ifanc i gyd ledled Torfaen sydd wedi casglu eu canlyniadau lefel A heddiw yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw a Choleg Gwent. Mae eich gwaith caled, eich ymroddiad a’ch dyfalbarhad wedi talu ffordd, a dylech fod yn falch iawn o’ch llwyddiant.
“Cofiwch, dyma gychwyn dyfodol llewyrchus ac addawol i chi. Wrth i chi gychwyn ar bennod nesaf eich bywydau, boed hynny mewn addysg bellach, hyfforddiant, neu yn y gweithle, rwy’n dymuno’r gorau i chi i gyd.”
Mae canlyniadau lefel A ar draws Cymru’n dangos fod 97.4% o ddisgyblion wedi cael graddau A* - E. Cafodd 10.1% o ymgeiswyr A*, a chafodd 29.9% graddau A*-A.
Mae’r data lefel A ac AS, a gyhoeddir gan y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC), yn dangos bod canlyniadau’n debyg i’r rheiny a ddyfarnwyd i fyfyrwyr cyn y pandemig yn 2019.
Dylid pwyllo wrth gymharu canlyniadau blynyddoedd cynt oherwydd dulliau gwahanol o asesu ac amgylchiadau gwahanol.
Cyfanswm yr ymgeisiadau ar gyfer lefel A eleni oedd 32,235, gostyngiad o 2.2% o 2023 (32,960). Serch hynny, mae ymgeisiadau’n gyson â 2019 (32,320).
Ar lefel A, Mathemateg yw’r pwnc mwyaf poblogaidd yng Nghymru, gyda chynnydd mewn ceisiadau am Lenyddiaeth Saesneg a Ffiseg.
Yng Nghymru, mae’r gyfradd llwyddo i ddynion a menywod yn weddol debyg gyda 96.4% o geisiadau gan ddynion yn cael graddau A* - E, o gymharu â 98.1% o geisiadau gan fenywod.