Llwyddiant arholiadau i ddysgwyr sy'n oedolion

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 23 Awst 2024
adult learners GCSEs

Nid dim ond disgyblion ysgol oedd yn dathlu llwyddiant TGAU yr wythnos yma – casglodd oedolion eu canlyniadau hefyd. 

Eleni, safodd 43 o ddysgwyr o Ddysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen arholiadau Saesneg a mathemateg dros yr haf. 

Safodd mam a’i mab, Anna a Theo Charles-Jones TGAU mathemateg – cafodd Anna radd B a chafod Theo radd C.

Dywedodd Anna: “Sefais TGAU mathemateg i gefnogi fy mab Theo tra roedd yn dilyn ei gwrs ef.  Fy nghyngor i unrhyw un sy’n meddwl am ailsefyll arholiadau yw y dylen nhw wneud hynny. Roedd gyda ni athrawon anhygoel, cefnogaeth wych a gwnaethom ni ffrindiau ar hyd y ffordd.”

Astudiodd Anna a Theo yng nghanolfan addysg oedolion y Pwerdy yng Nghwmbrân ochr yn ochr â Shirley Evens, o Fryn Eithin, a gafodd radd C mewn mathemateg.

Astudiodd Dylan Gracia, deunaw oed o Gwmbrân, TGAU Saesneg.

Dywedodd: “Mae’n rhywbeth y dylech chi wneud os ydych chi’n chwilio am gyfleoedd.  Mae’r cymhwyster yma’n fy ngalluogi i fynd i astudio seibr ddiogelwch yn y Barri.”

Safodd Susan Thomas, 64, Pont-y-pŵl, TGAU Saesneg hefyd. Ychwanegodd: “Roedd y cwrs yn anhygoel, yn enwedig cael y radd C. Rwy’n 64 eleni ac os gallaf i wneud, gall unrhyw un!”

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae canlyniadau eleni’n dyst i waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr a’n tiwtoriaid yn y Gwasanaeth Dysgu Cymunedol i Oedolion.  Mae cynnig cyfle i’n trigolion wella’u sgiliau a chael cymwysterau yn un o flaenoriaethau ein Cynllun Sirol.  

"Rydym mor falch o’n dysgwyr sy’n dathlu ei llwyddiannau anhygoel heddiw.  Nid yn unig y mae’n brawf o’u hymrwymiad i lwyddo, ond mae’n adlewyrchu’r addysg ansawdd uchel sydd yn y gwasanaeth DCiO.

"Hoffwn estyn llongyfarchiadau diffuant i’r rheiny sydd wedi casglu eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae eich gwaith caled, eich ymroddiad a’ch gwytnwch wedi talu ffordd ac rwy’n dymuno’r gorau i chi ar gyfer y dyfodol.”

Am wybodaeth am astudio TGAU Saesneg neu Fathemateg, neu gwrs paratoi TGAU, cysylltwch â’r Tîm Dysgu Cymunedol i Oedolion trwy 01633 647647 neu e-bost at power.station@torfaen.gov.uk. Gallwch ddysgu mwy hefyd trwy lawrlwytho ein llyfryn

Am ysbrydoliaeth bellach, ewch i wefan Wythnos Dysgwyr Oedolion, rhwng dydd Llun, Medi 9 – Dydd Gwener, Medi 13. 

Diwygiwyd Diwethaf: 23/08/2024 Nôl i’r Brig