Arolygwyr yn canmol ymddygiad disgyblion

Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 14 Awst 2024

Mae disgyblion Ysgol Gynradd Croesyceiliog wedi cael canmoliaeth am eu "hymddygiad rhagorol" yn ystod arolygiad diweddar gan Estyn.

Dywedodd yr arolygwyr fod disgyblion wedi dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu a'u bod yn barod i gefnogi ei gilydd gyda'u gwaith ac yn ystod amser chwarae.

Fe wnaethon nhw hefyd ganmol y pennaeth a'r staff am greu "amgylchedd gofalgar, hapus a diogel i ddisgyblion" a oedd yn galluogi’r plant i fagu hyder a hunan-sicrwydd.

Yn eu hadroddiad, a gyhoeddwyd yr wythnos hon, roedd yr arolygwyr yn cydnabod bod y rhan fwyaf o ddisgyblion wedi datblygu sgiliau darllen, siarad a gwrando da o oedran ifanc, ac yna roeddent yn gallu eu defnyddio i gyflwyno, trafod a herio’i gilydd wrth iddynt symud drwy'r ysgol.

Dywedon nhw fod llawer o feddwl wedi mynd i mewn i gwricwlwm yr ysgol, sy'n seiliedig ar weledigaeth o "ddysgu byw a charu dysgu", a’i fod yn eang, yn gytbwys ac yn cynnwys profiadau dysgu â chysylltiad clir at datblygu sgiliau pwysig, fel llythrennedd, rhifedd, sgiliau digidol a’r Gymraeg.

Ychwanegon nhw fod bron pob disgybl yn mwynhau dysgu yn yr awyr agored ac yn deall pwysigrwydd bwyta'n iach a chadw'n heini, a bod dewis o weithgareddau ar-ôl-ysgol ar gael, gan gynnwys ffrisbi eithafol, dodgeball a phêl-rwyd.

Amlygodd yr adroddiad hefyd y ffocws ar ddatblygu a chefnogi llesiant cadarnhaol disgyblion. Roedd hyn yn cynnwys yr Arwyr Llesiant sy'n helpu disgyblion iau sy'n ofidus neu'n unig yn ystod amser chwarae, a chyflwyno 'saib i’r ymennydd' a 'chorneli tawel' yn ddiweddar mewn ystafelloedd dosbarth.

Roedd hefyd yn cydnabod y prosesau cadarn sydd ar waith i fonitro presenoldeb a phrydlondeb disgyblion, gyda gwobrau a gweithgareddau i hyrwyddo presenoldeb da.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn longyfarch y disgyblion, y staff a'r teuluoedd yn Ysgol Gynradd Croesyceiliog am adroddiad rhagorol yn dilyn yr arolygiad. Mae ysgolion yn hanfodol i roi'r addysg a'r sgiliau sydd eu hangen ar blant i ffynnu, sy'n ganolog i amcanion llesiant y Cyngor."

Gwnaeth yr adroddiad dri argymhelliad: diweddaru asesiad risg cyn cwblhau gwaith i gynyddu uchder y ffens o amgylch yr ysgol; mireinio gweithgareddau hunanwerthuso a gwella ansawdd yr adborth gan ddisgyblion.

Darllenwch adroddiad Estyn Ysgol Gynradd Croesyceiliog

Diwygiwyd Diwethaf: 14/08/2024 Nôl i’r Brig