Wedi ei bostio ar Dydd Iau 31 Mawrth 2022
Mae timau arlwyo ysgolion yn Nhorfaen wedi’u henwebu ar gyfer dwy wobr yng Ngwobrau Arlwyo’r Sector Cyhoeddus a gynhelir yr wythnos nesaf.
Mae Adran Arlwyo Torfaen wedi’i henwebu ar gyfer Gwobr Arloesi, a thîm arlwyo Ysgol Gyfun Gwynllyw, Pont-y-pŵl, am Wobr Arlwyo yn y Maes Addysg.
Mae'r enwebiad ar gyfer Gwobr Arloesi yn cydnabod y gwaith arloesol y mae’r Tîm Arlwyo wedi'i wneud i gefnogi disgyblion ag awtistiaeth sy'n teimlo bod cael cinio ysgol yn heriol.
Bu’r tîm yn gweithio gyda Swyddog Awtistiaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Torfaen, dietegydd pediatrig sy’n arbenigo mewn awtistiaeth, Awtistiaeth Cymru a rhieni i ddatblygu polisi i sicrhau bod addasiadau’n cael eu gwneud i’r mannau bwyd a’r mannau bwyta pan fo angen.
Mae Timau Arlwyo Ysgolion hefyd wedi ennill statws Sefydliad sy’n Ystyriol o Awtistiaeth ar ôl i 150 o staff arlwyo gael hyfforddiant awtistiaeth.
Dywedodd Mary Rose, Cogydd Ysgol yn Ysgol Gynradd George Street, Pont-y-pŵl: “Roedd y cwrs ymwybyddiaeth o awtistiaeth o gymorth mawr i mi gan fod gennym fachgen bach awtistig yn ein hysgol, ac weithiau mae’n cael cinio. Nid yw'n hoffi unrhyw fath o newid, hyd yn oed eistedd wrth fwrdd gwahanol.
"Mae'n rhaid iddo fod yn yr un lle bob dydd. Fe wnaeth y cwrs fy helpu i ddeall sut mae'n gweld pethau. Yr unig fwyd y bydd yn ei fwyta yw cig a grefi felly pan fydd ei enw ar y rhestr ginio dwi'n gwneud yn siŵr mai dyma sydd ganddo. Ar ôl cwblhau’r cwrs ar-lein rydw i nawr yn deall yn fwy manwl sut mae'n brwydro i ymdopi â phethau.”
Dywedodd Cheryl Deneen, Swyddog Awtistiaeth Plant a Phobl Ifanc Cyngor Torfaen: “Mae tîm Arlwyo Torfaen wedi bod yn hynod ragweithiol o ran codi ymwybyddiaeth ynghylch awtistiaeth o fewn eu timau arlwyo mewn ysgolion ar draws yr awdurdod.
Maent hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu cyfleoedd pellach i staff ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r heriau y mae plant a phobl ifanc ag awtistiaeth yn eu hwynebu o ran bwyta.
"Mae'r polisi hwn yn adlewyrchiad o'u hymrwymiad i weithio mewn partneriaeth â phlant a phobl ifanc, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Rwyf hefyd yn ymfalchïo’n fawr i rannu mai Torfaen yw’r Tîm Arlwyo cyntaf ledled Cymru i gwblhau’r hyfforddiant hwn sy’n wirioneddol anhygoel.”
Mae tîm arlwyo Ysgol Gyfun Gwynllyw wedi’u henwebu ar gyfer y Wobr Arlwyo yn y Maes Addysg am eu brwdfrydedd wrth baratoi prydau blasus, amrywiol a hybu bwyta’n iach.
Dywedodd Louise Williams, disgybl ym Mlwyddyn 11: “Mae’r ffreutur yn llawn bwrlwm bob amser, ac mae myfyrwyr yn mwynhau cael hwyl a jôc gyda’r staff, tra hefyd yn dysgu am yr hyn y maent yn ei fwyta.
“Prin fod yna wal wag yn y ffreutur, gan fod y staff yno’n gyson yn dyfeisio ffyrdd newydd a chreadigol o hybu bwyta’n iach, felly gallwch holi i unrhyw fyfyrwyr, a byddant bob amser yn gwybod beth maen nhw’n ei fwyta, a’r effaith y mae’n ei gael arnyn nhw.”
Dywedodd Miss Manon Roberts, Pennaeth Blwyddyn 9 a Phennaeth Cerddoriaeth: “Mae’r amgylchedd y maent yn ei greu yn gwneud i’r disgyblion deimlo’r croeso, a’u bod yn cael eu gwerthfawrogi. Maent yn hyblyg o ran y bwydlenni y maen nhw’n eu paratoi - bwydlenni sy'n newid yn aml gyda'r tymhorau, ac sydd hefyd wedi'u teilwra i’r hyn y mae disgyblion yn ei hoffi, ac maent yn cyflwyno blasau newydd cyffrous o bob rhan o'r byd.
"Mae'r ymdrech a ddangosant yn rhyfeddol, mae’r bwyd yn cael ei gyflwyno i'r safon uchaf bob amser; gyda digon o ddewis o ran opsiynau poeth ac oer i'r disgyblion.
“Maen nhw nid yn unig yn darparu bwyd iach, blasus i’r disgyblion, ond maen nhw’n ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn adnabod y plant, gan fonitro eu bod yn bwyta’n dda, a chodi unrhyw bryderon gydag aelodau bugeiliol yr ysgol – cysylltiad hollbwysig er mwyn sicrhau lles ein disgyblion.”
Cynhelir Gwobrau Arlwyo’r Sector Cyhoeddus yn Llundain ddydd Iau 7 Ebrill.
I gael gwybod mwy am arlwyo mewn ysgolion yn Nhorfaen ewch i https://www.torfaen.gov.uk/cy/EducationLearning/SchoolsColleges/Schoolcatering/School-Meals.aspx