Wedi ei bostio ar Dydd Iau 24 Mawrth 2022
Bydd Cyngor Torfaen yn diffodd goleuadau’r Ganolfan Ddinesig ar gyfer Awr Ddaear 2022.
Mae Awr Ddaear WWF yn ddigwyddiad byd-eang, sy’n dod â channoedd o filiynau o bobl ynghyd ar draws y byd i uno a dangos eu bod yn malio am ddyfodol ein planed, ein un cartref ar y cyd. Eleni cynhelir Awr Ddaear ar nos Sadwrn 26 Mawrth 8:30-9:30pm gyda chartrefi, cymunedau, busnesau a thirnodau ledled Cymru yn cymryd rhan.
Y llynedd, cymerodd mwy na 2,000 o bobl yng Nghymru ran yn Awr Ddaear ac eleni mae WWF Cymru’n gofyn unwaith eto i bobl fod yn rhan o fudiad dros ein byd.
O dwyni glan môr i weundiroedd mawn, mae gan Gymru dirweddau naturiol hynod. Mae Cymru’n gwlad yn gartref i lawer o blanhigion gwyllt fel lili’r Wyddfa ac anifeiliaid gwyllt fel dolffiniaid trwyn potel Bae Ceredigion.
Mae 2022 yn flwyddyn bwysig i newid. Trwy ymuno â miliynau o bobl o gwmpas y byd a dod ynghyd ar noson Awr Ddaear, mae cymunedau ar draws Cymru’n dangos eu bod yn malio am ddyfodol ein planed.
Sut y gallwch gymryd rhan yn Awr Ddaear 2022:
- Cymryd awr i gysylltu – â natur, eich cymuned ac â phobl o gwmpas y byd: er enghraifft, cael cinio yng ngolau canhwyllau gyda ffrindiau a theulu.
- Diffodd goleuadau: Diffodd unrhyw oleuadau diangen am awr ar 26 Mawrth rhwng 20.30 a 21.30 GMT er mwyn helpu i greu sioe symbolaidd ac ysblennydd.
- Digwyddiadau: Cynnal digwyddiadau yn y gymuned yn y cyfnod cyn ac ar ddiwrnod Awr Ddaear i ymgysylltu â phobl. Ymuno â digwyddiad ar-lein WWF Cymru ar Facebook i gael diweddariadau: Earth Hour Wales 2022 Awr Ddaear Cymru (facebook.com)
- Hyrwyddo: Dangos cefnogaeth i Awr Ddaear trwy rannu’r hyn rydych chi’n ei wneud ar eich sianelau cyfryngau cymdeithasol. Yr hashnodau i’w defnyddio ar y noson yw #EarthHourWales ac #AwrDdaear.
- Lawrlwytho ap 'My Footprint’ WWF: Cofrestrwch am her Awr Ddaear a darganfod sut y gallwch wneud gwahaniaeth, un cam ar y tro.