Wedi ei bostio ar Dydd Llun 14 Mawrth 2022
Mae Rhifyn 1 (Mawrth 2022) o gyfres o gylchlythyrau gyda’r diweddaraf am y gwaith ar safle’r ‘British’, Tal-y-waun, ar gael nawr.
Mae’r safle’n un o brif brosiectau adfywio cyngor Torfaen.
Mae’r cylchlythyrau’n cael eu cynhyrchu gan dîm prosiectau adfywio cyngor Torfaen.
Mae’r rhifyn yma ym Mawrth 2022 yn cynnwys ‘Croeso’ gan y Cynghorydd Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio. Mae’n rhoi newyddion hefyd am y datblygiadau o gylch y gwaith cychwynnol, hanfodol sy’n mynd i’r afael â’r heriau a’r peryglon ar y safle (cam cyntaf y gwaith*)
*Mae’r cam cyntaf yma wedi derbyn arian trwy gronfa Llywodraeth Cymru – Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygiad Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei ariannu gan y Gronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Mae’r rhifyn yma hefyd yn cynnwys gwybodaeth am ein gwaith partneriaeth gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent gyda’r bwriad o gynyddu ymgysylltiad cymunedol a rhoi cyfleoedd i bobl leol ymwneud â’r safle.
Gallwch ddarllen Cylchlythyr Mawrth 2022 yma:
Saesneg: The British Newsletter - Edition 1 (March 2022) | Torfaen County Borough Council
Cymraeg: Cylchlythyr Y British - Rhifyn 1 (Mawrth 2022) | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Cysylltwch â thîm prosiect y British ar 01633 648083 i:
- Ofyn am fersiwn PDF lliw o Gylchlythyr Mawrth 2022
- Gofyn i gael derbyn rhifynnau’r dyfodol o’r Cylchlythyr
Dysgu mwy am y British