Goresgyn anawsterau a chael llwyddiant

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 9 Awst 2024
CFW+

Mae dyn o Bont-y-pŵl wedi goresgyn rhwystrau at waith ac wedi cael gwaith yn lleol, diolch i brosiect Cymunedau am Waith a Mwy (CiW+) Cyngor Torfaen.

Cyflwynwyd Nathan Pettitt, 25 oed, o Drefddyn, i CiW+ gan ei fam-yng-nghyfraith fis Ionawr, ar ôl cael trafferth cael hyd i waith sefydlog, a dibynnu’n aml ar waith asiantaeth ansefydlog.

Rhoddodd ei Fentor Cyflogaeth, Megan, gymorth i Nathan ystyried ei ddiddordebau a’i sgiliau, datblygu ei CV, chwilio am waith, a gwella’i dechnegau ar gyfer cyfweliadau.

Ar ôl wynebu heriau ariannol ar ôl cyfnod o ddiweithdra, doedd dim arian gan Nathan ar gyfer dillad a chostau trafnidiaeth i’r gwaith.

Talodd Cronfa Rhwystrau yn y Gwaith CiW+ am ei docynnau bws, dillad diogelwch, a gofal plant yn ystod mis cyntaf ei swydd yn ffatri Bisgedi Burton’s yng Nghwmbrân, diolch i’r gefnogaeth a gafodd.

Dyw siwrnai Nathan ddim wedi bod yn hawdd, gan iddo gael ei fagu mewn gofal maeth a dioddef anafiadau corfforol mewn damweiniau.  Dywedodd, “Ni fuaswn i wedi cael y swydd yma heb gefnogaeth CiW+.  Fe wnaethon nhw fy helpu i gyda phob dim yr oedd ei angen arnaf i, o chwilio am waith a chyfarwyddyd cyfweliadau, i ddillad a thrafnidiaeth.”

“Nawr, rwy’ wedi setlo ac rwy’n mwynhau fy ngwaith gyda Burton’s Biscuits. Rwy’ wedi gwneud ffrindiau newydd ac rwy’n teimlo’r llwyddiant pob dydd.  Rydw i gryn dipyn yn hapusach mewn rôl a all, rwy’n gobeithio, gynnig sefydlogrwydd i fi ar gyfer y dyfodol.”

Cynllun a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy ac mae’n helpu pobl sy’n ddi-waith yn Nhorfaen i gael hyd i waith cynaliadwy trwy raglen mentora benodol.

Maen nhw’n darparu sesiynau cyflogaeth galw heibio yn y gymuned, yn ogystal â chynnig cefnogaeth trwy’r Tîm Llesiant sy’n rhoi rhaglenni cynghori, lles corfforol ac iechyd meddwl.

Mae CiW+ yn rhan o Raglen Cyflogadwyedd Torfaen yn Gweithio yng Nghyngor Torfaen – sy’n cynnwys  prosiectau Celt+ ac Ysbrydoli+ a ariennir gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: “Mae stori Nathan yn dyst i effaith CiW+, sy’n creu amgylchedd sy’n grymuso pawb i gyrraedd eu potensial llawn trwy ymroddiad y mentoriaid.

“Mae’r cynllun yma nid yn unig yn cefnogi unigolion i wneud y mwyaf o’u galluoedd a chael hyd i waith addas, ond mae hefyd yn cyd-fynd ag amcanion lles ein cynllun sirol trwy hyrwyddo sefydlogrwydd economaidd a bywydau iachach.

“Wrth i Nathan barhau i ffynnu yn ei rôl newydd, rydym yn gobeithio y bydd ei daith yn ysbrydoli eraill sy’n wynebu heriau tebyg i ddod atom a cheisio cefnogaeth.”

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gall Cymunedau am Waith a Mwy eich helpu i gael gwaith neu hyfforddiant, cysylltwch â nhw ar 01495 742131 / 01633 648312 neu drwy e-bost at cfwplus@torfaen.gov.uk

Fel arall, gallwch alw heibio i Siop Torfaen yn Gweithio yng Nghanolfan Cwmbrân.

Diwygiwyd Diwethaf: 09/08/2024 Nôl i’r Brig