Wheels2Work

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024
Thunder Road bikes

Ydych chi’n ddi-waith ac yn cael trafferth cael gwaith oherwydd diffyg trafnidiaeth? Gallai cynllun newydd llogi moped fod yn ffordd at ddyfodol gwell i chi!

Mae cynllun newydd Wheels2Work yn caniatáu i bobl gymwys logi un o bedwar moped newydd sbon am hyd at chwe mis.

Bydd y cynllun hefyd yn talu cost trwyddedau Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol, y mae eu hangen ar yrwyr er mwyn reidio moped yn gyfreithlon ar heolydd cyhoeddus.

Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan brosiectau CELT Plus+ ac Ysbrydoli+ Cyngor Torfaen, sy’n helpu i gefnogi oedolion sy’n ddi-waith i gael hyd i waith, yn ogystal â helpu pobl sy’n gweithio i wella cyfleoedd eu gyrfaoedd.  

I ddefnyddio cynllun Wheels2Work, mae’n rhaid i unigolyn fod yn ddi-waith, fod yn byw yn Nhorfaen a bod â thrwydded gyrru lân.  Bydd angen hefyd iddyn nhw fod wedi chwilio am waith a bod yn barod i hyfforddi ar gyfer a llwyddo i gael y drwydded HSG.

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio yng Nghyngor Torfaen, “Trwy ddarparu’r gefnogaeth yma, rydym yn rhoi ateb ymarferol i’r rheiny sy’n chwilio am waith yn Nhorfaen i oresgyn y rhwystr o deithio i’r gwaith sydd weithiau’n sylweddol. Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yma’n arwain at fod mwy o bobl yn Nhorfaen yn cael gwaith lleol a sefydlog i wella’u bywydau”.

Ariennir cynlluniau CELT Plus ac Ysbrydoli gan Gronfa Ffyniant Cyffredin Llywodraeth y DU.

Am fwy o wybodaeth am brosiect Wheels2Work, cysylltwch â thîm Ysbrydoli trwy 07976632911 neu drwy e-bost gareth.jones4@torfaen.gov.uk

Am gyngor ar gyflogaeth neu sgiliau, gallwch ymweld â thîm Celt Plus yn siop Torfaen yn Gweithio yng nghanol tref Cwmbrân, neu cysylltwch â nhw ar 01633 647743, neu e-bostiwch employability@torfaen.gov.uk

Diwygiwyd Diwethaf: 16/07/2024 Nôl i’r Brig