Cwrs dechrau busnes am ddim

Wedi ei bostio ar Dydd Llun 16 Medi 2024
5-9-torfaen-spf-1_original

Mae cwrs newydd ar gyfer unrhyw un sydd wedi ystyried sefydlu eu busnes eu hun, yn dechrau fis nesaf.

Bydd y rhaglen 8-wythnos yn cwmpasu datblygu eich cysyniad busnes, brandio a marchnata a gwerthu a chyllid.

Cynhelir y cyrsiau yng Nghanolfan Addysg Gymunedol Croesyceiliog, yng Nghwmbrân, bob dydd Iau, o 3 Hydref, a byddant yn cynnwys mewnwelediad gan arbenigwyr o’r diwydiant ac entrepreneuriaid lleol. Bydd creche am ddim ar gael i unrhyw un sydd â phlant ifanc.

Mae'r Rhaglen Dechrau Busnes rad ac am ddim yn brosiect ar y cyd rhwng tîm Cyswllt Busnes Torfaen y Cyngor a'r academi hyfforddi busnes ICE Cymru. 

Mae'n dilyn y Clwb 5-9 llwyddiannus wedi'i anelu at entrepreneuriaid rhwng 18 a 30 oed, a gynhaliwyd y llynedd.

Meddai Yvette Viner, o Gwmbrân, perchennog Yvette Viner Jewellery, a fu ar y cwrs: "Sefydlais fy musnes sy’n gwneud gemwaith o fetelau gwerthfawr yn 2019, ond roedd yn fwy o hobi.

"Mae'r cwrs hwn wedi rhoi'r hyder a'r cyffro i mi i adeiladu fy musnes go iawn."

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Rydyn ni’n gwybod bod cyfoeth o dalent heb ei ffrwyno yn yr ardal, ac mae'r rhaglen hon yn rhoi'r arweiniad a'r gefnogaeth sydd eu hangen ar unigolion i wireddu eu syniadau.

"P'un ai eich bod chi’n rhiant, yn economaidd anweithgar, neu eisiau dechrau rhywbeth newydd, rydyn ni'n gyffrous i weld yr effaith gadarnhaol y bydd y fenter hon yn ei chael ar ein cymuned leol."

Meddai Hope Eckley, rheolwr Academi ICE Cymru: "Rydyn ni’n credu, gyda'r gefnogaeth iawn, y gall unrhyw un droi syniad gwych yn fusnes ffyniannus. Mae'r Rhaglen Dechrau Busnes yn gyfle gwych i drigolion lleol gymryd y cam cyntaf tuag at wireddu eu breuddwydion entrepreneuraidd."

Mae'r rhaglen yn rhan o'r Prosiect Cymorth Busnes sydd wedi cael £218,000 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae lleoedd ar gyfer y rhaglen yn gyfyngedig ac rydyn ni’n eich annog yn gryf i gofrestru’n gynnar. Cofrestrwch eich diddordeb

Ewch i wefan y Cyngor i gael gwybodaeth am ddigwyddiadau eraill Cyswllt Busnes Torfaen, gan gynnwys gweithdai hyfforddi busnes a Menywod mewn Busnes Torfaen 2024.

Gallwch hefyd ddilyn y tîm ar Facebook, anfon neges e-bost i businessdirect@torfaen.gov.uk neu ffonio 01633 648735.

Llun: Aelodau o Glwb 5-9 y llynedd

Nodiadau i'r golygydd:

Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw gwella balchder yn ein bro a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, gan fuddsoddi mewn cymunedau a lle, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws - GOV.UK (www.gov.uk)

Diwygiwyd Diwethaf: 16/09/2024 Nôl i’r Brig