Cyfarfod rhwydwaith busnesau bwyd

Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 30 Awst 2024

Bydd partneriaeth sy’n helpu busnesau lleol i hyrwyddo bwyd iach a chynaliadwy yn cynnal ei chyfarfod nesaf.

Cynhelir cyfarfod rhwydwaith busnes Food4Growth Torfaen yn siop newydd Coffi Kitoko yng Nghwmbrân ddydd Mawrth, 24 Medi am 6pm.

P’un ai  ydych chi’n fusnes sefydledig neu’n newydd i’r diwydiant bwyd, amcan y digwyddiad hwn yw rhoi mewnwelediadau gwerthfawr a chyfleodd i dyfu.  Mae croeso arbennig i aelodau newydd ymuno a dod yn rhan o’r gymuned fusnes fywiog yma.

Dywedodd Denis O’Malley o Coffi Kitoko, un o 14 a dderbyniodd grant busnes: “Mae busnesau lleol yn asgwrn cefn cymunedau, yn cyfrannu nid yn unig at dwf economaidd, ond hefyd i wead cymdeithas a lles cymdogaethau. 

“Mae’n anrhydedd cynnal y rhwydwaith busnes cyntaf yn Nhorfaen ac mae’n caniatáu i ni fod yn rhan o gymuned unigryw ble gallwn gydweithio gyda phobl eraill mewn busnes i ddod â newid cadarnhaol a gwella ansawdd bywydau pawb, gan greu dyfodol mwy llewyrchus i fusnesau lleol Torfaen a’n cymunedau.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i Coffi Kitoko ar ddydd Mawrth 24ain Medi”.

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: “Mae cefnogi busnesau bwyd lleol yn hanfodol ar gyfer twf a chynaliadwyedd ein cymuned.

“Mae’r cyfarfod rhwydwaith busnesau bwyd yn llwyfan ardderchog i gael adnoddau gwerthfawr a chreu rhwydweithiau cryf.  Rwy’n annog holl fusnesau bwyd Torfaen i fynd a chymryd mantais o’r gefnogaeth sydd ar gael.”

Trwy’r bartneriaeth, mae gan fusnesau bwyd sefydledig ail gyfle i wneud cais am gymorth ariannol trwy’r Grant Micro Busnesau Bwyd. Mae’r grantiau’n amrywio o £500 i £2,500 ac maen nhw ar gael i ychwanegu gwerth i gynnyrch busnesau, amrywio eu gweithrediadau presennol, a chreu rhwydweithiau bwyd cynaliadwy a chadwynau cyflenwi newydd.  Bydd ceisiadau’n cau ddydd Llun 9 Medi.

Bwriad Food4Growth yw cynyddu bwyd a gynhyrchir yn lleol trwy greu rhwydwaith o gynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd, rhoi grantiau i helpu busnesau bwyd i arallgyfeirio, a chefnogi sefydliadau i gael hyd i atebion cynaliadwy i dlodi bwyd. 

Am fwy o wybodaeth ac i ateb, cysylltwch â Food4Growth@torfaen.gov.uk

Mae’r Rhaglen Cydnerthedd Bwyd wedi derbyn £991,426 gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ac mae’n ceisio cynyddu’r bwyd fforddiadwy sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol a chanfod ffyrdd cynaliadwy o daclo tlodi bwyd trwy’r Bartneriaeth Bwyd Cynaliadwy.     

Dysgwch fwy am Food4Growth Torfaen

Dysgwch am y grant micro i fusnesau bwyd sefydledig

Diwygiwyd Diwethaf: 30/08/2024 Nôl i’r Brig