Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 4 Mawrth 2022
Heddiw, cymeradwyodd Cynghor Torfaen gynigion cyllidebol diweddaraf y cyngor a phennu’r cynnydd yn y Dreth Gyngor i lai na dau y cant am 2022-2023.
Derbyniodd y cyngor gynnydd o 9.3 y cant mewn cyllid, yn cyfateb i £13.5 miliwn, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn y setliad dros dro gan Lywodraeth Cymru.
Roedd y cynnydd yn golygu bod gan y cyngor tua £7.8 miliwn i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau uwchlaw'r rhagdybiaeth wreiddiol.
Roedd yr adroddiad, a gefnogwyd gan fwyafrif y cynghorwyr, yn amlinellu cynlluniau i:
* Gynyddu cyllideb yr ysgolion 5.30%
* Talu gweithwyr gofal gyflog byw gwirioneddol o £9.90 yr awr.
* Cyllid cyfalaf ychwanegol o £1 filiwn ar briffyrdd.
* 1.95% cynnydd yn y Dreth Gyngor am 2022-2023 ac 2023-2024.
* £1.1 miliwn arall ar gyfer adfer a chaledi ar ôl COVID
* Parhau gyda’r cynllun gadawyr ysgol
* Cyllid ar gyfer parhad y cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a gymeradwywyd
* Arian ychwanegol i ddarparwyr gofal cymdeithasol
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Rwy’n credu fod hon yn gyllideb dda i Dorfaen gyfan. Mae’r setliad hwn yn rhoi cyfle i ni gynllunio yn y tymor hir a gwneud buddsoddiadau mewn gwasanaethau rhwystrol ac ymyrraeth gynnar a fydd yn delio gyda phroblemau yn uwch i fyny’r ffordd. Os ydym yn meddwl yn yr hirdymor, gallwn hefyd amddiffyn y gwasanaethau hynny y mae Covid wedi dangos eu bod mor bwysig, a helpu ein hardal i adfer a dod yn gryfach ar ôl y pandemig.
“Os ydym yn ceisio cael enillion cyflym a mynd ar sbri gwario byrdymor, ni fyddwn yn gwneud unrhyw wahaniaeth i genedlaethau’r dyfodol.”
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen ar gyfer Adnoddau, y Cynghorydd Kelly Preston: “Rydym wedi cynnig cadw’r dreth gyngor mor isel ag y bo modd am 2 flynedd i gydnabod bod costau byw yn codi ac i roi sicrwydd ariannol i drigolion. Mae cynnydd yn y dreth gyngor o 1.95% yn adlewyrchu setliad llawer gwell gan Lywodraeth Cymru ac mae’r isaf yn f’amser i fel cynghorydd.
“Mae hwn yn gynnydd o ryw 50c yr wythnos i gartref ar gyfartaledd (Band D) yn y fwrdeistref. Ond mae ein cynigion gwario, wrth i ni ddechrau adfer ar ôl y pandemig, hefyd yn helpu i ddelio gyda’i effaith ar ein trigolion a’n cymunedau.
“Mae’r arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn caniatáu i ni ddelio gyda rhai meysydd buddsoddi hollbwysig ac mae hefyd yn cynnwys cynnydd arwyddocaol i ysgolion a gofal cymdeithasol, meysydd sy’n hollbwysig i’n trigolion.”
I weld yr adroddiad, ewch wefan i Cyngor Torfaen.