Wedi ei bostio ar Dydd Gwener 24 Mehefin 2022
Cynhelir diwrnod o arddangosfeydd coginio ym mis nesaf i helpu pobl i ddefnyddio eitemau mewn parseli bwyd.
Dim ond un o gyfres o ddigwyddiadau yw hwn sy’n cael eu trefnu gan brosiect Food4Growth Cyngor Torfaen, gyda’r nod o gynyddu argaeledd bwyd cynaliadwy lleol a chanfod atebion hirdymor i dlodi bwyd.
Mae cwrt bwyd – gyda chegin arddangos – yn mynd i gael ei greu ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl i gynnal rhaglen bythefnos o weithdai am ddim, sesiynau galw heibio ac arddangosfeydd coginio, sy’n cychwyn ar ddydd Llun 27 Mehefin.
Meddai Nikki Williams, Rheolwr Rhaglen Ddatblygu Wledig Cyngor Torfaen, sy’n helpu i drafod y digwyddiad: "Mae parseli bwyd, fel y rhai a ddosberthir gan Louise a Judy ym Manc Bwyd Eastern Valley, yn llinell bywyd bwysig i bobl mewn argyfwng.
"Ond rydym eisiau gwneud mwy i helpu trigolion yn y tymor hir. Mae dysgu ryseitiau newydd a thechnegau coginio gan ddefnyddio’r bwyd yn y parseli yn ffordd wych o wneud i’r parseli fynd ymhellach ac ar gyfer y dyfodol.
"Hefyd, bydd digwyddiadau ar gyfer rhieni sy’n paratoi i ddiddyfnu eu plant a chyfle i grwpiau cymunedol lleol sy’n dod at ei gilydd ar gyfer te’r prynhawn.
"Mae rhaglen o weithgareddau i fusnesau bwyd bach, megis clinigau galw heibio gyda gwybodaeth am sut i wneud cais am grantiau ac awgrymiadau ar sut i arallgyfeirio a thyfu eu busnesau.
"Bydd y digwyddiadau peilot yma yn ein helpu i ddeall yn union pa help a chymorth y mae trigolion, grwpiau cymunedol a busnesau eu heisiau at y dyfodol."
Bydd y sesiwn coginio parseli bwyd yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 7 Gorffennaf.
Gweithgareddau cwrt bwyd cymunedol:
* Diddyfnu a bwyd i fabanod, dydd Iau 30 Mehefin 10.30am
* Te’r prynhawn grwpiau cymunedol, dydd Iau 30 Mehefin 1.30pm
* Ymwybyddiaeth ofalgar a lles, dydd Sadwrn 2 Gorffennaf, 1.30pm, a dydd Mercher 6 Gorffennaf, 1.30pm
* Arddangosfa pobi cartref, dydd Iau 7 Gorffennaf, 10.30am
* Gwenyn a mêl, dydd Gwener 8 Gorffennaf, 10.30am
Gweithgareddau cwrt bwyd i fusnesau:
* Labelu a chyngor ar alergenau, dydd Llun 27 Mehefin, 2.30pm
* Cyngor ar farchnata, dydd Mercher 29 Mehefin, 10.30am
* Clinig galw heibio i fusnesau, dydd Gwener 1 Gorffennaf, 10.30am
* Marchnata digidol, dydd Gwener 1 Gorffennaf, 2.30pm
* Ymwybyddiaeth ofalgar a lles yn y gweithle, dydd Sadwrn 2 Gorffennaf, 10.30am
Bydd y gweithgareddau cwrt bwyd yn cael eu rhedeg gan BIC Innovation fel rhan o raglen Food4Growth, a ariennir gan Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.
Mae gwybodaeth ar ddigwyddiadau unigol i’w gweld ar Cyswllt Torfaen neu drwy ddilyn @PontypoolIndoorMarket a @torfaencouncil ar y cyfryngau cymdeithasol.
Os hoffech gael gwybodaeth ar sut i ymdopi gyda’r cynnydd mewn costau byw, ewch i’n gwefan.