Wedi ei bostio ar Dydd Iau 16 Mehefin 2022
Gyda dim ond wythnosau i fynd tan ddiwedd y flwyddyn academaidd, ydych chi’n pryderu eisoes am gost prynu gwisg ysgol newydd ar gyfer mis Medi?
Os felly, yna dewch i ddigwyddiad siopa a chyfnewid AM DDIM cyntaf erioed Cyngor Torfaen ar ddydd Gwener 15 Gorffennaf, 11am - 3pm, yn Theatr Congress yng Nghwmbrân.
Yn ogystal â gwisgoedd ail law o ansawdd da, bydd dillad chwaraeon, cotiau, bagiau, esgidiau ac offer ysgrifennu am ddim. Bydd cyfle hefyd i chi ddod â’r eitemau hynny mae eich plant wedi tyfu’n rhy fawr amdanynt i chi eu cyfnewid am feintiau mwy.
Os hoffech chi roi eitemau i’r siop, ewch â nhw i’r mannau canlynol os gwelwch yn dda:
Gogledd Torfaen
- Circulate – Uned 14, Ystâd Ddiwydiannol Gilchrist Thomas, Blaenafon.
Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am - 4.30pm.
- Cyngor ar Bopeth, Adeiladu Portland, Commercial Street, Pont-y-pŵl
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 8.30am - 4.30pm
- Partneriaeth Garnsychan - 55 Stanley Road, Garndiffaith, Abersychan, Pont-y-pŵl
Dydd Llun i Ddydd Gwener 9am - 4.30pm
- Trac 2 - Siop 2, Church Ave, Trefddyn, Pont-y-pŵl -
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am - 4pm a bore Dydd Sadwrn 9am - 2pm
- Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol, Uned 5 Ystâd Ddiwydiannol Pavillion, Pontnewynydd, NP4 0NF Dydd Llun, Dydd Mercher a Dydd Gwener, 9am - 1pm.
- Hill City Church, Freehold land road, Pont-y-pŵl NP4 8PA
Dydd Llun 10am – 12pm a Dydd Mercher 1pm - 3pm.
De Torfaen
- Tasty Not Wasty – Eglwys Fethodistaidd Llanyrafon (gwiriwch amserau agor cyn gollwng)
- Llyfrgell Cwmbrân – gyda’r tîm Cymunedau am Waith
Dydd Iau 23/30 Mehefin/7Gorffennaf, 1pm – 3pm.
- Y Pwerdy, Blenheim Rd, Sain Derfel, Cwmbrân NP44 4SY
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am - 4pm.
- Disability Advice Project - 9a Parc Busnes Avondale, Cwmbrân NP44 1UG
Dydd Llun i Ddydd Gwener 10am - 4pm
Mae angen i bob eitem fod mewn cyflwr da ac yn lân a rhaid eu gollwng yn un o’r mannau uchod erbyn Dydd Iau 7 Gorffennaf 2022.
Dywedodd Aelod Gweithredol Torfaen dros Wasanaethau Oedolion a Thai, y Cynghorydd David Daniels:
“Rwy’n gobeithio’n wir y bydd rhieni’n achub ar y cyfle i fynychu ein digwyddiad cyntaf i siopa a chyfnewid, sy’n ceisio lleddfu peth o’r pwysau ar bocedi teuluoedd wrth i ni nesáu at dymor yr hydref.”
“Er mwyn i‘r digwyddiad yma lwyddo, rydym yn gobeithio y bydd pobl yn dod ac yn rhoi eu heitemau i’w hail ddefnyddio i’r gwahanol fannau casglu ar draws y fwrdeistref.”
“Mae ailddefnyddio eitemau’n ffordd wych o helpu i daclo newid yn yr hinsawdd am ei fod yn lleihau faint o ddŵr a charbon a gaiff eu defnyddio i wneud a chludo dillad newydd ac mae’n lleihau faint o ddillad sy’n mynd i’r domen. Mae’n fwy cynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol."
Mae’r digwyddiad yn dilyn cyfres o sioeau teithiol Gofalu am Gostau Byw anelwyd at ofalwyr di-dâl sy’n pryderu yn am gostau cynyddol.
Am ragor o wybodaeth am y Siop Ysgol Cynnil, cysylltwch â Chreu Cymunedau Cydnerth ar 07834555055.