Wedi ei bostio ar Dydd Mercher 13 Gorffennaf 2022
Bydd miloedd do blant a phobl ifanc yn Nhorfaen yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau a digwyddiadau anturus am ddim dros yr haf.
O gelf a chrefft a gweithdai i weithgareddau chwaraeon a nofio, mae digonedd ar gael yn Haf o Hwyl Torfaen a fydd yn mynd tan ddydd Gwener 30 Medi.
Wedi ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, bwriad y rhaglen yw cefnogi lles plant a phobl ifanc rhwng 0-25 oed.
Am restr gyflawn o’r gweithgareddau i gyd, ewch at wefan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.
Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn un o nifer o ddarparwyr sydd ag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys eu Cynlluniau Chwarae Mynediad Agored, Chwarae yn y Parc a Gwersylloedd Dysgu, Chwerthin a Bod yn Egnïol.
Dywedodd Julian Davenne, sy’n rheoli’r gwasanaeth chwarae: “Mae’n bleser derbyn arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gan ei wneud yn bosibl cynnig mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ar draws y fwrdeistref.
“Eleni, rydym wedi recriwtio a hyfforddi dros 180 o wirfoddolwyr i gyflenwi cyfleoedd chwarae dyddiol trwy gydol Awst. Rydym yn falch o’u hymrwymiad i dreulio’u haf yn cefnogi eraill”.
Mae Cyngor Torfaen wedi ymuno gyda sefydliadau lleol eraill sy’n cynnig gweithgareddau dros yr haf, gan gynnwys Gweithredu i Blant, TOGS, Hope GB, Heads4Arts, Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy ac Urdd Gobaith Cymru.
Yn ogystal â’r Rhaglen Haf o Hwyl, mae yna nifer o weithgareddau a gweithdai eraill dros yr haf, gan gynnwys sesiynau stori a chrefft ‘Teclynnwyr’ Llyfrgelloedd Torfaen a chlybiau gwyliau Canolfan Gelf Maenor Llantarnam i enwi ond rhai.
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd a Chymunedau, y Cynghorydd Fiona Cross: “Yma yn Nhorfaen, mae gennym nifer o ddarpariaethau sy’n cael eu gwerthfawrogi gan gymaint o bobl a dyw e ddim yn anodd gweld pam. P’un ai Chwarae Torfaen, datblygu chwaraeon neu’r gwasanaeth ieuenctid sydd wrthi, maen nhw i gyd yn cynnig cymaint o weithgareddau a digwyddiadau anhygoel sy’n helpu gallu plant i fynegi eu hunain, dysgu sgiliau newydd a gwella lles meddyliol a chorfforol.
“Diolch i’r gwirfoddolwyr i gyd a fydd yn cefnogi’r ddarpariaeth wych yma!”