Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 22 Chwefror 2022
Mae Mason Jones, cystadleuydd Ultimate Fighting Championship wedi dangos ei gefnogaeth i ymgyrch sy’n annog pobl ifanc i gofrestru ar gyfer etholiadau lleol eleni.
Dyma’r tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed allu pleidleisio yn yr etholiadau ym mis Mai, pan fydd cyfle i ethol cynghorwyr ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen a chynghorau cymuned.
Mae Mason, o Flaenafon, sy’n cystadlu yn adran pwysau ysgafn campau ymladd cymysg yr UFC, yn annog pobl ifanc i gofrestru a phleidleisio.
Wrth siarad mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd: “Mae’n bwysig cofrestru i bleidleisio, dweud eich dweud a dewis pwy sy’n eich cynrychioli yn eich ardal leol.
"Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n darllen eu maniffestos oherwydd mae'n rhoi syniad i chi o'u cynigion a'r hyn maen nhw'n bwriadu ei wneud, a gallwch chi benderfynu a ydych chi'n cytuno â nhw."
Mae'r dyn 26 oed yn un o nifer o bobl ifanc sy'n ymddangos mewn ffilm gan Gyngor Torfaen a gafodd ei hanfon i ysgolion ar draws y fwrdeistref fel rhan o ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyngor. Gallwch wylio'r fideo yma.
Dywedodd Katie Jenkins, swyddog cyfranogiad etholiadol: “Rydym mor falch bod Mason yn helpu i gyfleu neges mor bwysig i’w gefnogwyr niferus.
“Mae ymchwil yn dangos os yw pobl ifanc yn cymryd diddordeb gweithredol mewn democratiaeth, maen nhw’n fwy tebygol o barhau i wneud hynny fel oedolion, sy’n wych i’w dyfodol nhw yn ogystal â’n dyfodol ni.
"Mae manteision eraill i gofrestru i bleidleisio hefyd. Gall wella eich sgôr credyd a all helpu i gael cytundeb ffôn newydd, gwneud cais am forgais neu rentu eiddo."
Roedd pobl ifanc 16 oed a hŷn yn cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd y llynedd, yn dilyn newid yn y gyfraith sydd hefyd yn caniatáu i wladolion cymwys o dramor bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru, ac i bobl ifanc 14 oed gofrestru.
Rhaid i unrhyw un sy'n dymuno pleidleisio yn yr etholiadau lleol ddydd Iau 5 Mai fod wedi cofrestru ar y gofrestr etholiadol erbyn dydd Iau 14 Ebrill. Gallwch gofrestru ar www.gov.uk/register-to-vote
Os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cofrestru, cadwch lygad am eich Llythyr Hysbysu Aelwydydd sy'n rhoi manylion pawb sydd wedi cofrestru i bleidleisio yn yr eiddo. Fel arall, gallwch gysylltu â'n tîm etholiadau ar voting@torfaen.gov.uk.
Mae yna nifer o ffyrdd i bleidleisio yn yr etholiadau lleol eleni. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n gwefan.
I weld neges Mason i bobl ifanc, dilynwch Gyngor Torfaen ar Facebook, Instagram a Twitter a chwiliwch am yr hashnod #EtholiadauLleolTorfaen2022 neu #dweuddyddweud.