Wedi ei bostio ar Dydd Iau 25 Awst 2022
Nid disgyblion ysgol yw'r unig rai sy'n cael eu canlyniadau TGAU heddiw. Mae oedolion sy'n dysgu yn Nhorfaen hefyd yn darganfod a wnaethon nhw daro'r nod.
Eleni, fe wnaeth 36 oedolyn sefyll TGAU Saesneg a Mathemateg drwy wasanaeth dysgu oedolion y Cyngor gyda 77% yn cael graddau A* i C mewn Saesneg a Mathemateg.
Mae'r cyrsiau'n rhoi cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol i bobl i helpu i gynyddu eu rhagolygon am swyddi, i wneud cynnydd yn y gwaith neu gael mynediad at astudiaeth bellach, a byddant yn helpu i wella sgiliau ar gyfer bywyd bob dydd.
Mae cyrsiau achrededig hefyd ar gael mewn Sgiliau Hanfodol yn Saesneg a Mathemateg o ddechreuwyr hyd at lefel 2. Nod y cyrsiau yw meithrin hyder dysgwyr i'w paratoi ar gyfer TGAU.
Meddai Joanne Gauden, yr Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r canlyniadau eleni yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr sy'n oedolion a'n tiwtoriaid yn y Gwasanaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Rydym mor falch o'n dysgwyr yn dathlu eu llwyddiannau anhygoel heddiw. Mae hyn, nid yn unig yn dystiolaeth o'u hymrwymiad i lwyddo, ond mae hefyd yn adlewyrchu'r addysgu a'r dysgu o ansawdd uchel sy'n digwydd yn ein 3 lleoliad addysg i oedolion. Gall ein tiwtoriaid helpu pobl i ganfod eu man cychwyn a helpu i ddewis y cwrs gorau iddyn nhw."
I gael mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyrsiau sydd ar gael, cysylltwch ar 01633 647647 neu ewch i wefan y cyngor a chwilio am ddysgu oedolion yn y gymuned.