Wedi ei bostio ar Dydd Llun 15 Awst 2022
Ers ei lansio yr haf hwn, mae Arolwg ar lein Natur Wyllt wedi derbyn dros 1,000 o ymatebion o bob cwr o Dorfaen ac ardaloed ehangach Gwent.
Mae'r arolwg, sy'n cau ar 30 Medi, wedi'i gynllunio i glywed barn trigolion ar ddull Natur Wyllt, sy'n hyrwyddo gadael glaswelltir mewn parciau ac ar hyd ymylon ffyrdd i dyfu yn y gwanwyn a'r haf i greu ardaloedd o ddolydd a lle i fyd natur. Bydd yr adborth a gafwyd yn helpu i lywio rheoli mannau gwyrdd yn y dyfodol.
Dywedodd Andrew Osborne, Arweinydd Grŵp, yr Economi, Amgylchedd a Diwylliant: “Diolch yn fawr iawn i bawb sydd eisoes wedi rhoi o’u hamser i gwblhau’r arolwg Natur Wyllt, ac am adael i ni wybod eich syniadau ynglŷn â’r ffordd yr ydych yn hoffi i ni reoli eich mannau gwyrdd, a, rhannu eich teimladau am fyd natur.”
Ethos Natur Wyllt yw y dylid caniatáu i laswelltir ym mannau gwyrdd Gwent dyfu a ffynnu gyda blodau gwyllt, gan ddarparu bwyd a chynefin i'n pryfed peillio. Mae hefyd yn ymwneud â dod o hyd i gydbwysedd rhwng natur a hamdden drwy gydol y flwyddyn. Mae Cyngor Torfaen yn asesu pa mor dda maen nhw'n rheoli mannau gwyrdd ar gyfer natur ac i drigolion yn barhaus. Bydd yr arolwg yn parhau tan yr hydref felly mae digon o gyfle i roi adborth trwy gwblhau'r arolwg ar www.monlife.co.uk/outdoor/nature-isnt-neat/complete-our-survey/
Wrth i ddiwedd yr haf agosáu, mae llawer o blanhigion wedi gorffen blodeuo ac yn dechrau mynd i had, gan adael i ddolydd edrych yn fwy glaswelltog. Er efallai nad ydynt mor lliwgar, maent yn dal i fod yn llawn sioncod y gwair, gwyfynod a gloÿnnod byw sy'n byw ac yn bwydo yn y glaswellt. Mae'n hanfodol bod blodau gwyllt a gweiriau'r ddôl yn gallu cynhyrchu a gwasgaru hadau cyn cael eu torri, er mwyn i ni gael mwy o flodau y flwyddyn nesaf. Ar ddiwedd y tymor, bydd timau trin tir y cyngor yn cychwyn eu cyfundrefnau torri gwair ar draws safleoedd, drwy dorri a chasglu ee fel dolydd traddodiadol maen nhw'n cael gwared ar faetholion ac yn lleihau'r gallu i laswellt drechu y flwyddyn nesaf gan annog rhagor o gynefinoedd bioamrywiol.
Cefnogir y prosiect gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig:
Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei ariannu gan grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.