Wedi ei bostio ar Dydd Mawrth 12 Ebrill 2022
Mae’r ddwy ŵydd sydd wedi eu symud o’r gamlas ar ôl cwynion ynglŷn ag ymddygiad ymosodol yn setlo i mewn yn eu cartref newydd.
Roedd y gwyddau domestig yn rhan o grŵp o naw y credir iddynt gael eu gadael ar y gamlas yn Nwy Loc, Cwmbrân, rhyw dair blynedd yn ôl.
Yn anffodus dros yr ychydig wythnosau diwethaf, derbyniodd Cyngor Torfaen nifer o adroddiadau bod dwy o’r gwyddau yn ymosod ar bobl, gan gynnwys menyw 86 oed gwympodd wrth geisio dianc.
Ar ôl ystyried y perygl posibl a gynrychiolai’r gwyddau i drigolion ac iddyn nhw eu hunain, cymerwyd penderfyniad i symud y gwyddau er eu diogelwch eu hunain a diogelwch defnyddwyr y gamlas.
Casglodd cwmni rheoli pla lleol, sydd hefyd yn rhedeg gwasanaeth casglu anifeiliaid ac sydd â phrofiad o drin adar yn ddiogel, y gwyddau ar 6 Ebrill ac fe’u symudwyd i dyddyn bychan yn y fwrdeistref, lle byddant yn aros.
Meddai Daniel Morelli, Pennaeth Amddiffyn Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Torfaen: "Rydym yn deall bod rhai trigolion yn ypsét ynglŷn â’r penderfyniad i ail-gartrefi’r gwyddau ac rydym eisiau eu sicrhau mai eu diogelwch a’u lles nhw oedd y flaenoriaeth drwy’r amser.
"Roeddem yn bryderus ynglŷn ag adroddiadau o bobl yn cael eu hanafu gan y gwyddau ac roeddem eisiau rhwystro unrhyw un arall rhag cael eu niweidio ac i rwystro anaf i’r gwyddau.
"Rydym wedi defnyddio cwmni sydd â phrofiad o drin adar yn ddiogel, ac mae un o’n swyddogion wedi ymwelodd â’r gwyddau yn eu cartref newydd ddoe.Rydym yn falch eu bod yn setlo’n dda. Gwnaed ymholiadau gyda nifer o elusennau anifeiliaid i gasglu ac ail-gartrefu’r gwyddau ond ni allai’r un ohonynt dderbyn yr adar ar hyn o bryd.
"Gan eu bod wedi eu hail-gartrefu gyda phreswylydd preifat ar eu tyddyn bach, ni allwn ddatgelu’r union leoliad, ond gallwn sicrhau trigolion eu bod yn ddiogel ac yn iach. Mae gan y gwyddau ddigon o le yn eu cartref naturiol newydd, gan gynnwys pwll mawr.
"Mae’r saith gŵydd arall yn aros ar y gamlas a hoffem ddiolch i drigolion lleol am gadw llygad arnyn nhw a sicrhau eu bod yn iawn."