Torfaen y Gweithio
Gall Torfaen yn Gweithio roi pecyn wedi ei addasu o gymorth i unrhyw un sy’n byw yn neu yng nghyffiniau Torfaen, p’un ai ydyn nhw allan o waith neu’n gweithio.
Mae rhai o’r pethau y gallan nhw roi cefnogaeth â nhw’n cynnwys:
- Cymorth ymarferol i ysgrifennu CV, ymarfer cyfweliadau a chwilio am swyddi.
- Gwybodaeth am y farchnad swyddi leol a pharu swyddi.
- Cymorth ariannol i dalu costau hyfforddiant
- Hyfforddiant sgiliau allweddol gan gynnwys mathemateg, Saesneg a sgiliau digidol
- Gwybodaeth, cyngor a chyfarwyddyd diduedd i helpu i ffurfio eich gyrfa a chynllun sgiliau.
Mae Torfaen yn Gweithio’n cynnwys prosiectau CELT plus a Lluosi a ariennir gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, yn ogystal â rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth am Dorfaen yn Gweithio, ffoniwch 01633 647743, e-bostiwch employability@torfaen.gov.uk neu ewch i dudalen Facebook Torfaen yn Gweithio.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2025
Nôl i’r Brig