Ymunwch â ni a chreu gyrfa rydych chi'n ei charu
Croeso i dudalennau recriwtio Cyngor Torfaen.
Fel Prif Weithredwr, rwy'n falch iawn o'ch cyflwyno i'r cyfleoedd sy'n eich disgwyl o fewn ein cyngor arloesol a bywiog.
Nid lle i weithio yn unig yw Torfaen; mae'n gymuned lle mae cyfraniad pob aelod yn cael ei werthfawrogi a lle mae ein hymdrechion ar y cyd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ymfalchïwn yn y ffaith ein bod yn gyflogwr o ddewis, sy’n cynnig amgylchedd cefnogol a chynhwysol lle gall bawb ffynnu. Gyda chyflog cystadleuol, buddion rhagorol, ac opsiynau gweithio hyblyg, rydym yn sicrhau bod gan ein staff yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i ragori yn broffesiynol ac yn bersonol.
Mae ymuno â Chyngor Torfaen yn golygu dod yn rhan o dîm sy'n ymroddedig i degwch, cefnogaeth, effeithiolrwydd ac arloesedd. Rydym wedi ymrwymo i feithrin talent a meithrin diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus. Os ydych yn rhannu ein gwerthoedd ac yn chwilio am yrfa werth chweil sy'n creu effaith wirioneddol, rydym yn eich annog i bori drwy’r swyddi sydd ar gael gennym ac ystyried dod yn rhan o’n teulu yma yn Nhorfaen.
Stephen Vickers, Prif Weithredwr