Adnoddau
Mae'r gyfarwyddiaeth Adnoddau yn canolbwyntio ar y gwaith o redeg y cyngor o ddydd i ddydd yn ogystal â'r gwasanaethau ariannol y mae'n eu darparu i drigolion. Ei nod yw darparu gwasanaethau effeithlon sy'n canolbwyntio ar y cwsmer, sy'n adlewyrchu'r ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau ac yn dymuno cael mynediad at wasanaethau.
Nigel Aurelius, y Dirprwy Brif Weithredwr, yw Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau.
Mae'r gwasanaeth wedi'i rannu'n:
- Gwasanaethau ariannol
- Gwasanaethau corfforaethol
- Adnoddau Dynol
- Rheoli a Buddsoddi'r Gronfa Bensiwn
- Archwilio mewnol
- Gwasanaethu Cyfreithiol
- Refeniw a Budd-daliadau
David Lilly yw'r Cyfarwyddwr Cyllid ac mae'n gyfrifol am:
- Rheoli ac adrodd ar faterion ariannol
- Rheoli polisïau yswiriant ac ymdrin â hawliadau
- Swyddogaethau cyfrifon taladwy
- Rheoli a chynnal a chadw’r system derbyniadau incwm
- Rheoli a chynnal a chadw’r system ariannol
Jason Lewis yw Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ac mae'n gyfrifol am:
- Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol
- Cymorth Gweinyddol a Chymorth Busnes
- Gwasanaethau Cymorth Busnes a Democratiaeth
- Swyddfa Rheoli Rhaglenni
- Cynllunio, cyflwyno a thrawsnewid
- Caffael (rôl cleient)
Tina Hume yw Pennaeth Adnoddau Dynol ac mae'n gyfrifol am adnoddau dynol a datblygiad galwedigaethol.
Alex Bull yw Pennaeth Rheoli a Buddsoddi'r Gronfa Bensiwn.
Peter Williams yw Pennaeth Archwilio Mewnol.
Tim James yw Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol.
Deb Smith yw Pennaeth Refeniw a Budd-daliadau.
Diwygiwyd Diwethaf: 17/04/2024
Nôl i’r Brig