Ydych chi eisiau help gyda'ch sefyllfa gyflogaeth?

P'un a ydych chi allan o waith neu’n gweithio, gall Torfaen yn Gweithio helpu i ddarparu cymorth a hyfforddiant hyblyg i chi a fydd yn eich helpu i oresgyn rhwystrau.

Gall Torfaen yn Gweithio roi i chi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fodloni gofynion busnesau lleol ac i gael y cyfle i symud ymlaen i swydd dda. Gallant hefyd roi cyngor i chi  ynglŷn ag amrywiaeth o becynnau cymorth i oresgyn unrhyw broblemau a allai fod yn eich atal rhag gweithio e.e. gofal plant a thrafnidiaeth.

Po fwyaf cymwys ydych chi a po fwyaf y sgiliau sydd gennych i'w cynnig, y mwyaf tebygol yw y byddwch yn dod o hyd i waith ac yn aros mewn swydd.

Mae Torfaen yn Gweithio hefyd yn cynnig cefnogaeth ar ôl i chi ddod o hyd i waith fel y gallan nhw barhau i'ch helpu i ddatrys problemau ac i gadw eich swydd.

Os ydych angen cymorth hyfforddiant a chyflogaeth, cwblhewch ein ffurflen ymholiad fer yma a bydd aelod o’n tîm cyfeillgar yn cysylltu â chi.

Diwygiwyd Diwethaf: 18/04/2025
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Galw Torfaen

Ffôn: 01495 762200

E-bost: your.call@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig