Cymunedau i Waith a Mwy a Chymunedau i Waith
Pwy Ydym ni?
Rhaglen Llywodraeth Cymru a’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd a noddir ar y cyd gan yr Adran Waith a Phensiynau yw Cymunedau am Waith. Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw Cymunedau am Waith a Mwy ac mae’n gweithredu fel cefnogaeth gofleidiol i’r cynllun Cymunedau am Waith.
Gyda Beth Allwn Ni Helpu?
Mae’r ddau gynllun yn gweithio ochr yn ochr i gefnogi’r rheiny ar draws Torfaen sy’n ddi-waith, a’r rheiny sydd angen goresgyn rhwystrau er mwyn dychwelyd i waith. Gallai’r rhwystrau fod yn unrhyw beth o ofal plant i anghenion hyfforddiant, diffyg trafnidiaeth, hyder isel a dillad ar gyfer cyfweliadau. Mae pob cefnogaeth wedi ei haddasu ar gyfer anghenion unigol a gall cefnogaeth gael ei chynnig mewn sefyllfa 1:1 neu drwy’r clybiau gwaith dyddiol sy’n cael eu cynnal trwy Dorfaen.
Mae’r gefnogaeth sydd ar gael yn cynnwys:
- Mynediad i gyfleoedd hyfforddi am ddim
- Ysgogi ac adeiladu hyder
- Cefnogaeth gyda CV a cheisiadau am swyddi
- Hyfforddiant cyfweliadau
- Lleoliadau gwirfoddoli a gwaith
- Cefnogaeth Sgiliau Hanfodol
- Cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig
- Cyngor ar hunangyflogaeth
Gallwch ddysgu mwy am ein gwaith yma yn y cyfweliad hwn gyda Phrif Weithredwr Cyngor Torfaen, Stephen Vickers.
Gyda Phwy Allwn Ni Weithio?
Mae cefnogaeth ar gael i drigolion Torfaen sy’n ddi-waith ac yn chwilio am waith. Bydd ein Swyddogion Brysbennu’n cwrdd â chi i gael gwybodaeth bellach oddi wrthych chi er mwyn i ni weld a allwn ni eich cefnogi. Byddan nhw hefyd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ac esbonio beth sy’n digwydd os na allwch chi weithio gyda ni. Cysylltwch â ni os hoffech chi drafodaeth am hyn.
Ble Ydym Ni?
Ein prif swyddfeydd yw:
- Gogledd: Y Corn Bin, Stanley Road, Garndiffaith, Pont-y-pŵl, NP4 7LH
- De: Y Pwerdy, Blenheim Road, Sain Derfel, Cwmbrân, NP44 4SY
Sut Mae Cysylltu â Ni?
Mae yna nifer o ffyrdd i chi gysylltu â ni:
.
Diwygiwyd Diwethaf: 08/02/2022
Nôl i’r Brig