Cysylltiadau rhwng Ysgolion a Chlybiau
Beth yw cysylltiad rhwng ysgol a chlwb?
Yn ôl PESSCL 2006 (Cysylltiadau Addysg Gorfforol a Chlybiau Chwaraeon Ysgolion), mae gan ysgol gysylltiadau â chlwb pan fydd camau pendant yn cael eu cymryd i arwain disgyblion tuag at weithgareddau'r clwb, naill ai mewn lleoliad sicrhau ansawdd yn y clwb ei hun neu ar safle'r ysgol. Byddai gweithgareddau ar safle'r ysgol yn cynnwys sesiynau hyfforddi rheolaidd a chlybiau y tu allan i oriau ysgol a drefnir gan hyfforddwyr y clybiau, ond ni fyddai'n cynnwys sesiynau blasu untro.
Nodau
Prif nod cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng ysgolion a chlybiau/grwpiau chwaraeon lleol a thrwy hynny gynyddu nifer y plant 5-16 oed sy'n aelodau o glybiau/grwpiau chwaraeon achrededig.
Mae llawer o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn yr ysgol, ond ychydig iawn sy'n gwneud hynny y tu allan i amgylchedd yr ysgol, ac mae'r ganran hon yn gostwng ymhellach fyth pan fyddant yn gadael addysg orfodol.
Mae cysylltiad effeithiol rhwng ysgol a chlwb yn gweithio tuag at newid y diwylliant hwn, trwy newid y canfyddiadau traddodiadol o weithgareddau corfforol yn yr ysgol a chynnig gweithgareddau eraill mwy anarferol. Mae pobl ifanc yn fwy tebygol o fanteisio ar y cyfleoedd hyn i gymryd rhan a'u cynnal yn ddiweddarach yn eu bywydau.
Manteision i'r Ysgol
- Codi proffil yr ysgol
- Cydnabyddiaeth fel sefydliad sy'n cefnogi datblygiad y tu hwnt i amgylchedd yr ysgol
- Cysylltiadau â'r gymuned
- Llwybrau ar gyfer gweithgareddau corfforol. Llwybrau allan ar gyfer plant, cyfranogiad parhaus
- Cynnydd yn nifer y timau ysgol
- Cynnydd mewn byw'n iach yn yr ysgol
- Cefnogaeth a chymorth gyda thimau/gweithgareddau allgyrsiol
- Mwy o gyfranogiad
- Ystod ehangach o chwaraeon yn cael eu cynnig yn yr ysgol
- Annog pawb i fod yn egnïol
Manteision i Bobl Ifanc
- Ystod ehangach o gyfleoedd chwaraeon
- Dewis
- Gwell cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon yn eu cymuned leol
- Cyfle i'w doniau gael eu nodi a'u meithrin
- Symud yn hyderus rhwng yr ysgol a'r clwb
- Cysondeb
- Cyfle i ddatblygu sgiliau hyfforddi ac arwain
- Deall sut mae eu profiadau yn yr ysgol a'r clwb yn ategu ei gilydd
- Sylweddoli sut mae addysg gorfforol yn eu paratoi ar gyfer cymryd rhan mewn clybiau ar lefel iau a thu hwnt
- Cyflwyniad i fyw'n iach
- Teimlo'n gyfforddus gydag amrywiaeth o bobl o wahanol gefndiroedd ac oedrannau
- Dewis rhaglenni clwb sy'n gweddu iddynt hwy
- Cyfle i gymryd rhan mewn nifer o wahanol fathau o chwaraeon am ddim – gallant arbenigo yn ddiweddarach mewn bywyd
Manteision i'r Clwb
- Cynnydd yn aelodaeth y clwb
- Mwy o gyfranogiad
- Cynnydd mewn cyfranogiad sylfaenol yn y clwb
- Codi'r proffil chwaraeon
- Cyfleoedd ariannol
- Agor y clwb i'r gymuned ehangach
- Hyrwyddo'r clwb yn yr ysgol
- Mwy o botensial i recriwtio gwirfoddolwyr newydd
- Cydweithio, cymorth ac adnoddau gan bartneriaid eraill – yr ysgol, Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion (PESS), Campau'r Ddraig, Swyddogion 5X60
- Cronfa o arweinwyr, hyfforddwyr a swyddogion ifanc y dyfodol
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen neu drefnu bod eich clwb yn cymryd rhan, cysylltwch â'r Swyddog Datblygu Clybiau ar 01633 628965.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig