I Dadau, Gan Dadau
Mae I Dadau, Gan Dadau yn rhaglen gymorth deg wythnos sydd â'r nod o helpu tadau newydd a darpar dadau gyda phlant hyd at 18 mis oed mewn amgylchedd diogel.
Bydd y rhaglen yn cynnwys gweithdai a sgyrsiau wythnosol, yn cwmpasu ystod eang o bynciau i gefnogi tadau ar eu taith magu plant. Mae rhai o'r gweithdai yn cynnwys:
- Iechyd a lles
- Diet a maeth
- Gwybodaeth gan y fydwraig a’r ymwelydd iechyd
- Seicoleg
- Gamblo a gemau ar lein
Mae I Dadau, Gan Dadau wedi’i dyfeisio yn dilyn ymchwil gan nifer o sefydliadau, gan gynnwys Fathers Outreach, Tidy Butt, Seicoleg Gwent, Recoveries 4 All a Sir Casnewydd yn y Gymuned.
Fe wnaethant ddarganfod bod dynion yn elwa o gael lle diogel lle gallant ofyn cwestiynau a dysgu amdanynt eu hunain a'u plant wrth iddynt ddechrau eu taith o fod yn dad. Bydd y grwpiau cymorth yn eu helpu i baratoi ar gyfer y newid yn eu bywyd a ddaw ar ôl cael plentyn.
Ar ôl cwblhau’r rhaglen, bydd y tadau’n cael cyfle i ymgysylltu â grwpiau, clybiau a fforymau cymunedol lleol sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.
Neilltuir hyd at 30 o leoedd ar y rhaglen.
I gymryd rhan bydd angen i chi lenwi’r ffurflen archebu yma.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 07980682256 neu e-bostiwch jacob.guy@torfaen.gov.uk
Diwygiwyd Diwethaf: 03/02/2023
Nôl i’r Brig