Ymddiriedolaeth Chwaraeon Mic Morris
Roedd Mic Morris yn heddwas a rhedwr pellter canol rhyngwladol dros Brydain. Bu'r rhedwr heb ei ail, o Bont-y-pŵl, farw pan oedd ond yn 24 oed tra allan yn hyfforddi ym 1983. Sefydlwyd cronfa ymddiriedolaeth rhwng Heddlu Gwent a Chyngor Bwrdeistref Torfaen i godi arian ar gyfer doniau ifanc Torfaen yn y maes chwaraeon.
Cymhwyster
Mae'n benodol ar gyfer pobl ifanc (o 11 hyd at 21 mlwydd oed) sy'n byw yn Nhorfaen ac sy'n cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon gwahanol. Bydd y rhai sy'n gymwys yn cael eu gosod o fewn tri categori:
- Cynrychiolodd Cymru neu Brydain Fawr o fewn y 12 mis diwethaf a rhaid iddynt ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig/prawf gan eu Corff Llywodraethu Cenedlaethol (CRhC) perthnasol.
- Wedi'i nodi i fod ar lwybr Olympaidd y Gymanwlad, Elitaidd, Rhyngwladol gyda thystiolaeth/prawf perthnasol gan y CRhC priodol. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio eu disgresiwn wrth ystyried ceisiadau unigol.
- Wedi'i ddewis ar gyfer llwybr datblygu ar gyfer y gamp o'u dewis. Bydd yr Ymddiriedolwyr yn defnyddio eu disgresiwn wrth ystyried ceisiadau unigol.
Canllawiau Gweithredu
Caiff yr holl geisiadau eu hystyried mewn cyfarfod Ymddiriedolwyr bob tri mis. Gellir gwneud cais am grant ar gyfer y canlynol:
- Costau teithio
- Llety
- Dillad
- Offer
Y Broses Ymgeisio
Rhaid llenwi ffurflen gais gan roi manylion perthnasol a thystiolaeth o gymryd rhan mewn camp ar lefel genedlaethol, gan gynnwys cadarnhad gan gorff llywodraethol. Nodwch fanylion y cystadlaethau y cymerwyd rhan ynddynt yn ystod y 12 mis diwethaf ac unrhyw gystadlaethau yn y dyfodol. Byddai llythyr o gymeradwyaeth gan yr hyfforddwr (ar bapur â phennawd llythyr) hefyd yn fuddiol.
Mae pob un ohonom yn gwybod am yr argyfwng costau byw ac mae'r Ymddiriedolaeth yma i helpu. Mae cymaint o athletwyr uchelgeisiol yn Nhorfaen, byddem yn annog unrhyw un sy'n gymwys i dderbyn grant i ddod ymlaen; boed yn rhywun sy’n ymgeisio am y tro cyntaf neu rhywun sydd wedi ymgeisio o’r blaen.
Cynhelir y cyfarfodydd nesaf ar:
- 11 Rhagfyr 2024 (dyddiad cau 2 Rhagfyr 2024)
Ffurflen gais
Gallwch lawr lwytho copi o Ffurflen Gais Mic Morris yma neu i dderbyn copy drwy'r post, cysylltwch â Christine Philpott ar 01633 628936. A fyddech cystal ag e-bostio eich ffurflen gais at christine.philpott@torfaen.gov.uk.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Christine, fydd yn fwy na hapus i’ch helpu.
Diwygiwyd Diwethaf: 25/09/2024
Nôl i’r Brig