Datblygu Hyfforddwyr
Caiff y gwaith o ddatblygu hyfforddwyr yn Nhorfaen ei gydlynu gan Swyddog Datblygu Chwaraeon Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen sy'n gweithio mewn partneriaeth â nifer o sefydliadau eraill, fel Chwaraeon Cymru, Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon a Chynghrair Wirfoddol Torfaen.
Mae datblygu hyfforddwyr yn Nhorfaen yn:
- Nodi a recriwtio hyfforddwyr
- Codi ymwybyddiaeth a nodi cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus hyfforddwyr
- Hyrwyddo cyrsiau a gweithdai
- Darparu cymorth mentora i'r gymuned hyfforddwyr
- Rhoi diweddariadau i glybiau a hyfforddwyr am arfer gorau a rheoliadau
- Cyfrannu at y Rhaglen Datblygu Hyfforddwyr a'i hadolygu
- Annog hyfforddwyr i wirfoddoli yn ystod amser cinio ac mewn clybiau ar ôl ysgol
Hyfforddi
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn hyfforddi/gwirfoddoli yn Nhorfaen, cysylltwch â ni!
Mae hyfforddwyr yn hollbwysig i chwaraeon; maent yn rhan enfawr o sicrhau bod pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol eu hoes.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, pa un a oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn hyfforddwr neu os ydych eisoes yn hyfforddwr ac yn dymuno cael gwybodaeth am sut i ddatblygu'r sgiliau hynny ymhellach, cofrestrwch ar y gronfa ddata hyfforddwyr i gael gwybodaeth am gyrsiau, gweithdai a newyddion. Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Chwaraeon ar 01633 628961.
Diwygiwyd Diwethaf: 05/12/2018
Nôl i’r Brig