Cymorth Tai y Lluoedd Arfog

Rydym yn sylweddoli bod llety tymor hir yn bwysig i bobl sy'n gadael y lluoedd arfog. Gallwn roi gwybodaeth a chyngor i chi i'ch helpu i ddod o hyd i dai fforddiadwy o ansawdd da sy'n bodloni eich anghenion unigol, ac rydym yn cynnig cymorth penodol i'r rhai hynny sy'n dymuno gwneud cais am dŷ cyngor yn Nhorfaen.

Ffoniwch ein tîm Gofal Cwsmeriaid ar 01495 762200 i gael cyngor.

Rydym yn cynnig cyngor ar ystod eang o wasanaethau a dewisiadau tai a allai fod o ddiddordeb i chi. Mae'r rhain yn cynnwys

  • Budd-daliadau Tai
  • Tai Fforddiadwy

Addasiadau ac offer ar gyfer eich cartref - Os ydych chi'n anabl neu'n cael anhawster gyda gweithgareddau byw pob dydd, gall offer arbenigol ac addasiadau eich helpu i barhau i fyw'n annibynnol ac yn ddiogel yn eich cartref eich hun. Gallwn roi cymorth i berchenogion cartrefi preifat a thenantiaid y cyngor.

Cartref rhent preifat trwy ein cynllun landlordiaid achrededig – Mae cynllun landlordiaid achrededig Torfaen yn rhoi statws achrededig i landlordiaid yn y sector rhentu preifat sy'n cytuno i weithio yn unol â chod rheoli a bodloni safonau tai penodol.

Prynu cartref trwy gynllun tai fforddiadwy - Help2Own - Cynllun perchenogaeth cartref cost isel yw Help2Own, sy'n galluogi pobl nad ydynt yn gallu fforddio prynu tŷ ar y farchnad ar hyn o bryd i berchen ar eu cartref eu hunain.

Mae'r Lleng Brydeinig Frenhinol yn darparu gofal tymor byr a thymor hir ar gyfer personél sy'n gwasanaethu a chyn-bersonél a'u dibynyddion yng Nghartrefi Gofal y Lleng Brydeinig Frenhinol ledled y wlad.

Mae'r Gymdeithas Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd (SSAFA) yn cynnig cyngor a chymorth i unrhyw un sy'n gymwys i'w dderbyn, p'un a ydynt yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog neu wedi gadael y lluoedd arfog, neu'n aelod o deulu rhywun sydd â chysylltiad â'r lluoedd arfog. Mae SSAFA hefyd yn darparu cyfleusterau tai a chartrefi preswyl.

Hire a Hero

Elusen milwrol sy'n gweithio gyda holl bersonél gyn- filwrol yn gwneud beth bynnag y mae'n ei gymryd am gyhyd ag y mae'n ei gymryd i ddarparu cymorth unigol wrth drawsnewid o wasanaeth i fywyd sifil.

Mae Hire a Hero yn gweithio mewn partneriaethau gyda sefydliadau eraill i nodi a darparu'r cymorth gorau ar gyfer y rhai sy'n gadael y gwasanaeth. Mae hyn yn cwmpasu nifer o feysydd gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant , tai a chefnogaeth i’r anafedig.

Wedi'i leoli yn Mamhilad, mae Hire a Hero yn anelu at wasanaethu’r rhai sydd wedi ein gwasanaethu ni ac yn ymroddedig i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog yn Nhorfaen.

Ebost: info@hireaherouk.org 
Ffôn: 01495761084

Diwygiwyd Diwethaf: 02/05/2024
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:

Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog

Ffôn: 01495 762200

E-bost: armedforces@torfaen.gov.uk

Nôl i’r Brig